Cyflwyniad
Yn TrC rydyn ni’n gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel Partner Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a fydd yn datblygu’r bwriad strategol ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar draws Grwp TrC, gan ganolbwyntio ar eirioli ac ysbrydoli’n gynhwysol ar draws y sector trafnidiaeth.
Cyfrifoldebau’r swydd
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am Hyrwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd â phrofiad o weithredu strategaeth a phrosesau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i wreiddio newid diwylliannol i drawsnewid sefydliad.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Introduction
At TfW we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this, we’re determined to be one of Wales’ leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
This is a great opportunity to join Transport for Wales (TfW) as an ED&I Partner who will develop the strategic intent for Equality, Diversity and Inclusion (ED&I) across the TfW Group, focusing on advocating and inspiring inclusively across the transport sector.
Role responsibilities
Who we’re looking for
We’re looking for an ED&I Champion who has experience of implementing an ED&I strategy and processes to embed cultural change to transform an organisation.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.