Rheolwr Prosiect (Cynaliadwyedd)
Math o gontract: Contract am dymor penodol o 18 mis
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o brif gyflogwyr cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Rôl newydd wych i ymuno fel Rheolwr Prosiect i gynorthwyo'r Tîm Datblygu Cynaliadwy i gyflawni prosiect bioamrywiaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri sy’n werth £100,000 i gyflawni gwelliannau mewn 22 o orsafoedd trenau a 5 prosiect cymunedol.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn cynllunio a rheoli gweithgareddau’r prosiect drwy gysylltu â’ch Rheolwr Llinell am gyfarwyddyd a blaenoriaethu eich llwyth gwaith i wneud yn siwr eich bod yn gallu cyrraedd cerrig milltir cyflawni’r prosiect yn effeithiol o ran amser, cost ac ansawdd.
Byddwch yn rheoli'r prosiect, gan gynnwys cydgysylltu tîm y prosiect, sicrhau cymeradwyaethau priodol, asesu pob safle ar gyfer gwelliannau, cyrchu deunyddiau, a gosod gwelliannau, er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni ar amser, o fewn ei gwmpas ac o fewn y gyllideb.
Byddwch hefyd yn cynnal gweithgareddau monitro a rheoli drwy olrhain ac adrodd ar gynnydd y prosiect i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiect profiadol sydd wedi cyflawni prosiectau cymhleth o'r blaen, sydd â phrofiad o reoli cyllideb ac sydd â'r gallu i feithrin cysylltiadau da â rhanddeiliaid.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Project Manager (Sustainability)
Contract type: 18 months fixed-term contract
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
A fantastic new role to join as a Project Manager to support the Sustainable Development Team to deliver a £100,000 Heritage Lottery biodiversity project to deliver enhancements at 22 train stations and 5 community projects.
Role responsibilities
You’ll be planning and managing project activity by liaising with your Line Manager for direction and prioritising your workload to ensure you can effectively meet project delivery milestone to time, cost, and quality.
You’ll manage the project, including coordinating the project team, gaining appropriate approvals, assessing each site for improvements, sourcing materials, and installing enhancements, to ensure that the project is delivered on-time, within scope and within budget.
You’ll also carry out monitoring and control activities by tracking and reporting on the progress of the project to ensure successful project delivery.
Who we’re looking for
We’re looking for an experienced Project Manager who has previously delivered complex projects, has budget management experience and has the ability to build good stakeholder relationships.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.