Arweinydd Risgiau Hinsawdd a Chadernid
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o brif gyflogwyr cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Dyma rôl newydd wych i ymuno â TrC fel Arweinydd Risgiau Hinsawdd a Chadernid i arwain gweithgareddau sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, asesiadau o risgiau hinsawdd, cadernid ac addasiadau hinsawdd yn Trafnidiaeth Cymru (TrC).
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn bod yn arbenigwr TrC ar y newid yn yr hinsawdd drwy roi cyngor i dimau prosiect a staff ar risgiau a chadernid hinsawdd, ac ar bynciau arbenigol cysylltiedig i sicrhau bod TrC a’i bartneriaid yn ei ymgorffori mewn penderfyniadau busnes.
Byddwch yn darparu ymatebion a thystiolaeth ar risgiau a chadernid hinsawdd drwy ymateb i ymholiadau gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys y Tîm Cyfathrebu, Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru, aelodau o’r cyhoedd a grwpiau buddiant, er mwyn sicrhau ymateb cyson i ymholiadau cysylltiedig.
Byddwch hefyd yn cyfrannu at gynlluniau'r safle/prosiect drwy roi cyngor ar lefel strategol a lefel y safle er mwyn sicrhau bod safleoedd TrC yn gweithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol ym maes newid hinsawdd, sydd â dealltwriaeth fanwl o’r Ddeddf Newid Hinsawdd i fod yn arbenigwr pwnc yn TrC ac i roi cyngor i’r busnes.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Climate Risk and Resilience Lead
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
A fantastic new role to join TfW as the Climate Risk and Resilience Lead to be the lead for climate change related activities including but not limited to climate risk assessments, resilience and adaptation within Transport for Wales (TfW).
Role responsibilities
You’ll be designing and implementing solutions to the climate emergency aligned to Welsh policy and guidance, working with colleagues and stakeholders to ensure TfW is prepared and is adapting and limiting risk.
You'll be TfW’s climate change subject matter expert by providing advice to project teams and staff on climate change and related specialist subjects to ensure TfW and its partners incorporate it into business decisions.
You'll also input into site/project plans by providing advice at a strategic and site-based level to ensure TfW sites are operating in compliance with legislation.
Who we’re looking for
We’re looking for an experience climate change professional, who has a depth of understanding surrounding the Climate Change Act to be TfW’s subject matter expert and provide advice to the business.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.