Gofalwr
Cyflwyniad
Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn symud i’w Bencadlys newydd ym Mhontypridd ac rydyn ni’n chwilio am Ofalwr i ymuno â ni ar ein taith. Bydd y Gofalwr yn gyfrifol am y cyfleusterau, glanhau a rhoi cymorth gweithredol er mwyn i Trafnidiaeth Cymru gyflawni ei fusnes craidd ar draws y Pencadlys.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn helpu i gynnal a chadw pencadlys TrC drwy ddarparu gwasanaeth rheoli cyfleusterau meddal cynhwysfawr i staff TrC, tenantiaid ac ymwelwyr eraill sy’n defnyddio swyddfeydd y cwmni i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf er mwyn bodloni eu hanghenion.
Byddwch hefyd yn helpu i gwblhau gwiriadau ac archwiliadau diogelwch (ee sylweddau peryglus, diogelwch tân, gwiriadau legionella) drwy gydweithio â’r tîm cyfleusterau ac iechyd a diogelwch i sicrhau bod deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn cael ei ddilyn ym mhob un o’r swyddfeydd.
Bydd rhaid i chi wneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol ym Mhencadlys TrC drwy lanhau, ailgylchu ac ailstocio i sicrhau bod swyddfa TrC yn ddiogel ac yn cael ei chynnal a’i chadw’n briodol.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn rhagweithiol a hunangynhaliol sydd wedi cael hyfforddiant Sefydliad Gwyddor Glanhau Prydain i’n helpu ni, TrC, i gynnal a chadw ein swyddfa newydd ym Mhontypridd a bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer nifer o weithgareddau cyfleusterau.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Janitor
Introduction
Transport for Wales (TfW) will be moving to its new Headquarters in Pontypridd and we’re looking for a Janitor to join us on our journey. The Janitor will deliver facilities, cleaning and operational support for Transport for Wales (TfW) to carry out its core business across its Head Office.
Role responsibilities
You’ll be assisting with the maintenance of TfW’s Head Office by providing a fully comprehensive soft facilities management service to TfW staff, other occupiers and visitors using the company’s offices to provide a first-class service to meet their needs.
You’ll also be assisting the completion of safety checks and audits (e.g. hazardous substances, fire safety, legionella checks) by coordinating with the facilities and health & safety team to ensure health and safety legislation is adhered to across all its offices.
You’ll need to provide general maintenance to TfW’s Head Office by providing cleaning support, recycling, restocking and general up-keep to ensure TfW’s office space to safe and appropriately maintained.
Who we’re looking for
We’re looking for a proactive and self-sufficient individual who has British Institute of Cleaning Standards (BICS) training to help us TfW maintain its new Pontypridd office and be the first point of contact for a number of facilities activities.
You’ll need to have
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh language skills
The ability to speak Welsh would be a plus but not essential for this role.