Rheolwr Masnachol Cynorthwyol
Math o Gontract: Contract am dymor penodol o 2 blynedd
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth gynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Cyfle gwych i ymuno â thîm Gweithrediadau Rheilffyrdd / Perchennog y Seilwaith Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel Rheolwr Masnachol Cynorthwyol a fydd yn gweithio yn y tîm Prosiectau Seilwaith ac yn chwarae rôl allweddol o ran sicrhau bod Prosiectau Seilwaith yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus ledled Cymru. Mae’r rôl hefyd yn cefnogi’r phortffolios gwaith Prosiectau Gwella Gorsafoedd a Phrosiectau Seilwaith Cerbydau
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn darparu cefnogaeth i’r broses o werthuso tendrau drwy weithio gyda thîm y prosiect a'r rheolwr masnachol i fesur, i asesu ac i brisio cynigion/tendrau contractwyr, i sicrhau cymhwysedd a pherfformiad masnachol y contractwr.
Byddwch yn cefnogi’r Rheolwr Masnachol i reoli’r gwaith o asesu a phrisio ceisiadau contractwyr drwy brosesu ardystiadau talu yn unol â phrosesau Trafnidiaeth Cymru.
Byddwch yn cefnogi’r gwaith o gwblhau setliadau’r cyfrifon terfynol a gwaith cysoni mewnol i hwyluso’r broses o ddod â nhw i ben yn unol ag awdurdod y prosiect a chynllun y prosiect, o fewn amserlenni y cytunir arnynt.
Am bwy rydyn ni’n chwilio:
Rydym yn chwilio am ddarpar Reolwr Masnachol, sydd â phrofiad blaenorol o rôl fasnachol neu gyllid a’r gallu i ddarparu rhagolygon a chyllidebu cywir.
Bydd angen y canlynol arnoch:
o Gradd mewn cyllid neu fesur meintiau neu brofiad blaenorol mewn rôl fasnachol neu ariannol.
o Gallu darparu rhagamcanion a rheolaeth gywir o gyllideb fawr.
o Profiad o ysgrifennu adroddiadau, papurau a llythyrau ffurfiol ac o drin a thrafod data rhifol.
o Gallu ymgysylltu ag amryw o randdeiliaid, cwsmeriaid a chyflenwyr mewnol ac allanol a meithrin perthynas waith effeithiol â nhw.
Pwy ydym ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Assistant Commercial Manager
Contract Type: 2-Year Fixed-Term Contract
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
A fantastic opportunity to join Transport for Wales’ (TfW) Rail Operations / Infrastructure Owner as an Assistant Commercial Manager will work within Infrastructure Projects team and have a key role in ensuring the successful delivery of Infrastructure Projects across Wales. The role also support the Stations Improvements Projects and the Rolling Stock Infrastructure Projects portfolios of work
Role responsibilities
You’ll provide support to the tender evaluation process by working with the project team and commercial manager in the measurement, assessment and valuation of contractor tenders/bids to ensure both the contractor’s competence and commercial performance.
You’ll support the Commercial Manager in managing the assessment and valuation of contractor applications by processing payment certifications in accordance with Transport for Wales processes.
You’ll also assist with the completion of final account settlements and internal reconciliations to facilitate project close out as per the project authority and project plan within agreed timescales.
Who we’re looking for:
We’re looking for an aspiring Commercial Manager, who has previously experience in a commercial or finance role and the ability to provide accurate forecasting and budgeting.
You’ll need to have:
o A degree in finance or quantity surveying or have previous experience in a commercial or financial role.
o Ability to provide accurate forecasting and management of a large budget.
o Ability to write reports, papers and formal letters and of numerical data manipulation.
o Ability to engage with and develop effective working relationships with a range of internal and external customers/stakeholders.
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but not essential for this role.