Rheolwr Safle Adeiladu
Cyflwyniad
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi parhau i dyfu yn ystod 2020 ac rydyn ni’n chwilio am Reolwr Safle Adeiladu i fod yn gyfrifol am roi prosesau Rheoli Adeiladu TrC ar waith, gan sicrhau bod ein prosiectau’n cael eu cyflawni’n ddiogel, i’r ansawdd gofynnol, ar amser, ac yn unol â'r gyllideb.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn atebol am weithrediadau ar y safle drwy weithredu fel prif bwynt cyswllt ar gyfer rheoli swyddogaethau a phrosiectau a gefnogir o fewn y prosiect o ddydd i ddydd, er mwyn sicrhau rheolaeth ar y safle.
Byddwch yn ymgymryd â rôl arwain er mwyn datblygu diwylliant diogelwch cadarnhaol drwy fonitro a rheoli cydymffurfiad contractwyr a phartneriaid cyflenwi â dyletswyddau Rheoli Dyluniad Adeiladu (CDM) i sicrhau diogelwch ar safleoedd yn unol â rheoliadau’r diwydiant.
Byddwch hefyd yn rheoli cydymffurfiad gweithrediadau safleoedd adeiladu ar draws sawl ardal drwy weithio gyda Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys cyrff rheoleiddio, er mwyn cydweithio’n llwyddiannus gyda phartneriaid cyflenwi yng nghyswllt cydymffurfio â’n gweithgareddau integreiddio.
Am bwy rydyn ni’n chwilio:
Rydyn ni’n chwilio am Reolwr Safle profiadol sydd wedi rheoli safle adeiladu ar gyfer seilwaith mawr ac yn gallu rheoli gweithrediadau a mesurau diogelwch ar raddfa fawr.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Construction Site Manager
Introduction
Transport for Wales’ (TfW) has continued to grow during 2020 and we’re now looking Construction Site Manager to be responsible for the implementation of the TfW Construction Management processes, ensuring our projects are delivered Safely, to the required quality, on time and within budget.
Role responsibilities
You’ll be accountable for on-site operations by acting as the main point of contact for the day to day management of supported projects and functions within the project to ensure on-site governance.
You’ll take a lead role in developing a positive safety culture by monitoring and managing contractor and delivery partners’ compliance with Construction Design Management (CDM) duties to ensure safety on-site in line with industry regulations.
You’ll also manage the compliance of construction site operations across several areas by working with Transport for Wales Rail Services and other key stakeholders, including regulatory bodies, to achieve a collaboration with deliver partners regarding compliance of our integration activities.
Who we’re looking for:
We’re looking for an experienced Site Manager who has previously managed a large infrastructure construction site who has the ability to manage large scale operations and safety measures.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but not essential for this role.