Dadansoddwr Rhaglenni
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Cyfle gwych i ymuno â Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel Dadansoddwr Rhaglenni i gefnogi’r gwaith o gyflawni datrysiadau TG Trafnidiaeth Cymru (TrC) a darparu’r cymorth a’r trefniadau sydd eu hangen ar y cwmni i gyflawni ei rwymedigaethau TG.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn gyfrifol am y broses prynu i dalu ar gyfer pob pryniant TG drwy ddefnyddio Dynamics i alluogi’r tîm TG i gyflenwi offer TG i ddefnyddwyr yn ôl yr angen, gyda chymorth gan y Swyddog Cymorth Busnes.
Byddwch yn arwain y gwaith o gaffael offer TG drwy ddefnyddio fframweithiau caffael i sicrhau bod gofynion masnachol yn cael eu bodloni yn yr adran TG gan roi gwerth am arian i’r cwmni ar bob pryniant.
Byddwch yn cefnogi’r Partner Busnes TG yn y system Dynamics, drwy helpu gydag uwchraddio a phrofi er mwyn gwneud y system yn haws i ddefnyddwyr ei defnyddio.
Byddwch yn cefnogi Partner Busnes Cyllid y Gwasanaethau Canolog drwy ddefnyddio Dynamics i sicrhau bod trafodion yn cael eu cwblhau yn unol â chyfyngiadau amser.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am rywun sydd â phrofiad amlwg o weithio mewn Adran TG, gan ddefnyddio rhaglenni fel Dynamics Finance a Dynamics Purchase to Pay.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Byddai’r canlynol o fudd hefyd:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Application Analyst
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
A great opportunity to join Transport for Wales (TfW) as a Application Analyst to support the delivery of Transport for Wales’ (TFW) IT solutions and will deliver the support and arrangements necessary for the company to deliver its IT obligations.
Role responsibilities
You’ll be responsible for the purchase to pay process of all IT purchase by using Dynamics to allow the IT team to supply IT equipment to end users as required, with support from Business support officer.
You’ll lead the procurement of IT equipment by using procurement frameworks to ensure commercial requirements meet within IT department giving the company value for money on all purchases.
You’ll support the IT Business Partner in Dynamics system, by helping with upgrades and testing to make system easier to use for end users.
You’ll support Central Services Finance Business Partner by using Dynamics to ensure transactions are completed in line with time constraints.
Who we’re looking for
We’re looking for someone who has demonstrable experience working within an IT Department, using applications such as Dynamics Finance & Dynamics Purchase to Pay.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.