Cynllunydd Trafnidiaeth
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o brif gyflogwyr cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Dyma gyfle gwych i ymuno â Trafnidiaeth Cymru fel Cynllunydd Trafnidiaeth i ddarparu cymorth a chyngor technegol ynglyn â materion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth, gan gynnwys paratoi Achos Busnes ac arfarniad i’n cleientiaid ar draws ystod o brosiectau.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn rhoi cyngor ac arweiniad ar bolisi trafnidiaeth drwy ddarparu dogfennau ac arfarniadau a pharatoi achosion busnes, gan gyfeirio at Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) ar gyfer prosiectau camau cynnar hyd at adran opsiwn unigol, er mwyn galluogi TrC i roi cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol.
Byddwch yn darparu ystod o brosiectau ar yr un pryd drwy fodloni amserlenni prosiectau, cysylltu â’ch tîm, a defnyddio’r gadwyn gyflenwi lle bo angen, i gyflawni’r prosiectau yn unol â’r gyllideb, gan sicrhau eu bod o ansawdd da ac yn bodloni gofynion y cleientiaid.
Byddwch yn rhoi cymorth i mentora ein Graddedigion a’n Prentisiaid drwy roi cyfleoedd dysgu, cyngor ac arweiniad iddynt er mwyn helpu’r tîm i ddatblygu gydag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am Gynllunydd Trafnidiaeth sydd â phrofiad o gyflawni nifer o brosiectau yn unol ag Arweiniad ar Arfarnu 1 a 2 Trafnidiaeth Cymru, yn ogystal â darparu achosion busnes strategol i gefnogi amryw o raglenni Metro Cymru.
Dyma rai gofynion sylfaenol:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Transport Planner
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
A fantastic opportunity to join Transport for Wales as a Transport Planner to provide technical advice and support on transport related matters including Business Case preparation and appraisal to our clients across a range of projects.
Role responsibilities
You’ll provide transport policy advice and guidance by providing documentation, appraisals and preparing business cases with reference to WelTAG to early stage projects up to single option section to enable TfW to provide Welsh Government and Local Authorities expert advice.
You’ll deliver a range of projects concurrently by meeting project timescales, liaising with your team and using the supply chain where required to deliver the project to quality, budget and meet client requirements.
You’ll support mentoring our Graduates and Apprentices by providing them with learning opportunities, advice, and guidance to support the development of the team with a diverse range of skills and experience.
Who we’re looking for
We’re looking for a Transport Planner with experience in delivering multiple projects in line with WelTAG 1 & 2, as well as providing strategic business cases to support various Wales Metro programmes.
As a minimum requirement you’ll have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.