Rheolwr Prosiect (Newid Busnes/Trafnidiaeth)
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Dyma gyfle gwych i ymuno â Trafnidiaeth Cymru yn ystod cyfnod trawsnewid cyffrous fel Rheolwr Prosiect i gyflawni newid busnes a/neu brosiectau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth i wella gwasanaethau trafnidiaeth yn unol â pholisi a strategaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn cyflawni amrywiaeth o brosiectau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth, drwy ddefnyddio methodolegau cylch bywyd prosiect cadarn (fel APM neu PRINCE 2), gan weithredu cynllun y prosiect, amserlen o’r holl dasgau, cerrig milltir allweddol a rheoli adnoddau i sicrhau bod y rhain yn cael eu cwblhau’n ddiogel ac mewn da bryd, yn unol â’r gyllideb a’u bod o ansawdd.
Byddwch yn darparu gwasanaeth rheoli prosiectau proffesiynol ac effeithiol, gan gynnwys llywodraethu prosiectau, adrodd, gweithgorau technegol a grwpiau llywio gweithredol, yn unol â’r prosesau a’r amserlennu angenrheidiol i sicrhau bod y prosiectau’n cyd-fynd â phrosesau TrC a'u bod yn cael eu cyflawni yn unol â’r gyllideb a’u bod o ansawdd.
Byddwch hefyd yn rheoli cyllideb y prosiect drwy gysylltu â’r Partner Busnes Ariannol priodol a’r Rheolwr Prosiect, gan uwchgyfeirio unrhyw amrywiadau lle bo angen i sicrhau bod costau’n aros o fewn y gyllideb y cytunwyd arni.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am Reolwr Prosiect cymwys sydd â phrofiad blaenorol o weithio mewn timau a chydweithio â rhanddeiliaid i reoli prosiectau trafnidiaeth ar amser ac yn unol â’r gyllideb.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Project Manager (Business Change/Transport)
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
A fantastic opportunity to join TfW during an exciting period of transformation as a Project Manager to deliver business change and/or transport related projects to improve transport services in line with Welsh Government transport policy and strategy.
Role responsibilities
You’ll deliver a range of transport related projects, by applying robust project lifecycle methodologies (such as APM or PRINCE 2), implementing the project plan, schedule of all tasks, key milestones and resource management to ensure these are completed safely to time, cost and quality.
You'll provide a professional and effective project management service, including project governance, reporting, technical working groups and executive steering groups, in accordance with the required processes and timelines to ensure the projects are aligned to TfW processes and delivered to cost and quality.
You'll also manage the project budget by liaising with the appropriate Finance Business Partner and the Programme Manager, escalating any variances where required to ensure costs remain within the agreed budged.
Who we’re looking for
We’re looking for a qualified Project Manager who has previous experience in working teams and collaborating with stakeholders to manage transport projects on time and to budget.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.