Rheolwr Brand
Lleoliad: Caerdydd (gan symud i Bontypridd erbyn diwedd 2020)
Cyflwyniad
Mae TrC wedi parhau i ddatblygu fel brand yn 2019/20, ac rydym yn chwilio am Reolwr Brand i hyrwyddo a datblygu ein brand, i gynnal cymeriad y brand, ac i gynnal ymgyrchoedd dylanwadol i ddatblygu’r brand. Gyda llygad dda am fanylion, byddwch chi’n sicrhau bod cymeriad brand TrC yn cael ei gynnal, a bod gennym broses gyson a chywir i roi bywyd i’r brand er mwyn cynyddu ei effaith.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch chi’n datblygu ac yn hyrwyddo brand TrC drwy weithredu ein strategaeth brand hirdymor i sicrhau ein bod yn cael dylanwad cadarnhaol ar ein cynulleidfaoedd allweddol, ac yn datblygu brand TrC a gwella’i enw da.
Byddwch hefyd yn gweithredu ein hymgyrchoedd datblygu brand, yn asesu ac yn datblygu briffiau ymgyrchoedd/creadigol, ac yn datblygu pob math o asedau brand unigryw a chynnwys difyr.
Fel gwarcheidwad ein brand, byddwch chi’n datblygu ac yn berchen ar ein canllawiau brand er mwyn cynnal cymeriad ein brand. Byddwch hefyd yn datblygu ein hunaniaeth weledol a llais y brand, ac yn sicrhau bod ein brand yn cael ei ddefnyddio’n gyson ac yn gywir.
Am bwy rydym yn chwilio
Rydym yn chwilio am reolwr brand sydd â phrofiad o ddatblygu ymgyrchoedd a brand yn strategol, a llygad dda am fanylion er mwyn gweithredu ein strategaeth brand hirdymor.
Bydd angen y canlynol arnoch
Sgiliau Cymraeg
Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Brand Manager
Location: Cardiff (Relocating to Pontypridd by late 2020)
Introduction
TfW continued to grow in 2019/20 and we’re now looking for a Brand Manager to champion and develop our brand, maintain brand integrity and deliver influential brand-building campaigns. With an eye for detail you’ll ensure that the integrity of TfW’s brand is maintained and that consistent and accurate brand activation maximises the impact of our brand.
Role responsibilities
You’ll build and champion TfW’s brand by implementing our long-term brand strategy to ensure we positively influence our key audiences and build TfW’s brand and reputation.
You’ll also implement our brand-building campaigns, scoping and developing creative/campaign briefs and developing a range of distinctive brand assets and engaging content.
As our brand guardian, you’ll own and build our brand guidelines to maintain the integrity of our brand. You’ll also develop our visual identity and tone of voice and ensure that our brand is applied consistently and accurately.
Who we’re looking for
We’re looking for a brand manager experienced in strategic brand and campaign development and an eye for detail to implement our long-term brand strategy.
You’ll need to have
Welsh language skills
The ability to speak Welsh would be a plus but not essential for this role.