Llysgennad Rheilffyrdd Cymunedol
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad Dyma gyfle gwych i ymuno â Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel Llysgennad Rheilffyrdd Cymunedol i gysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd, ar y cyd â’n hymrwymiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i wella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Bydd deiliad y swydd yn ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid lleol, gan hyrwyddo manteision cadarnhaol trafnidiaeth gyhoeddus.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn gweithio gyda'r Rheolwr Rheilffyrdd Cymunedol i ddatblygu a darparu Cynllun Gweithgarwch Cymunedol sy’n adlewyrchu’r Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol, drwy ymchwilio i’r ardal ddaearyddol dan sylw er mwyn creu darlun cyflawn o randdeiliaid cymunedol priodol i ddatblygu’r cynllun.
Byddwch yn galluogi pobl sydd ag anawsterau iechyd meddwl, cymdeithasol neu seicolegol a’r rheini sy’n teimlo’n ynysig ac yn brin o hyder i ddefnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd. Byddwch chi’n gwneud hyn drwy weithio gyda sefydliadau iechyd, cymdeithasol a thrydydd sector i drefnu teithiau hygyrchedd, gan gynnwys hyfforddiant peiriannau tocynnau, sy’n chwalu rhwystrau drwy ddangos pa mor hawdd a diogel yw defnyddio’r rhwydwaith.
Byddwch yn ymgysylltu’n frwd ag ysgolion, clybiau chwaraeon a mudiadau ieuenctid drwy gyflwyno neges addysgu diogelwch rheilffyrdd i hyrwyddo diogelwch ar y rheilffyrdd, atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymfalchïo yn eu gorsaf leol, annog gwirfoddoli ee recriwtio gwirfoddolwyr newydd i’r cynllun mabwysiadu gorsafoedd.
Byddwch yn ymgysylltu’n rheolaidd â mabwysiadwyr gorsafoedd drwy gysylltu â chyfran o’r 200 ohonynt gan edrych ar adroddiadau a thrafod adborth gan y gymuned i wella’r berthynas a cheisio mewnbwn lleol i’r cynllun gweithgareddau.
Am bwy rydyn ni’n chwilioRydyn ni’n chwilio am rywun sy'n frwdfrydig dros eu cymuned, sydd â gwybodaeth helaeth am eu hardal leol a phobl ddylanwadol allweddol. Bydd gennych brofiad blaenorol o weithio i sefydliad sy’n canolbwyntio ar y gymuned.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Byddai’r canlynol o fudd hefyd:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Community Rail Ambassador
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction A great opportunity to join Transport for Wales (TfW) as a Community Rail Ambassador to connect communities to their railways, in conjunction with our commitment to the Well-being of Future Generations Act to improve social, cultural, environmental and economic well-being, the postholder will reach out to and engage with local communities and stakeholders, promoting the positive benefits of public transport.
Role responsibilities
You’ll work with the Community Rail Manager to develop and deliver a Community Activity Plan that reflects the Community Rail Strategy, by researching the geographical area of responsibility to develop a complete view of appropriate community stakeholders to develop the plan.
You’ll enable people with mental health, social or psychological difficulties and those who feel isolated and low on confidence to use the rail network. You will do this by working with health, social and 3rd sector organisations to organise accessibility trips including ticket machine training, that breaks down barriers by demonstrating the ease and safe use of the network.
You’ll actively engage with schools, sports clubs and youth organisations by delivering a rail safety education message to promote safety on the railways, discourage anti-social behaviour, take pride in local station, encourage volunteering e.g. recruiting new volunteers for station adoption
You’ll have regular engagement with station adopters by liaising with a portion of the 200 various adopters by looking at reports and discussing community based feedback to enhance the relationship and seek local input into activity plan.
Who we’re looking forWe’re looking for someone who is community driven, with extensive knowledge of their local area and of key influential people. You will have previous experience of working for a community focused organisation.
You’ll need to have:
It would be beneficial if you also had:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.