Uwch Reolwr Prosiectau TG
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gyflogwr Cyfle Cyfartal, mae hyn yn golygu y dylai pob un cymwys gael cyfle cyfartal i gael swydd a dyrchafiad ar sail ei allu, ei gymwysterau a’i addasrwydd ar gyfer y gwaith. Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw ymgeisydd na gweithiwr gael ei drin yn llai ffafriol ar sail: hil; lliw; rhyw; cyfeiriadedd rhywiol; oedran; statws priodasol, anabledd; crefydd; cyfrifoldebau teuluol/domestig a phatrymau gwaith, ee rhan-amser. Ni ddylid ychwaith roi unrhyw unigolyn dan anfantais oherwydd amodau neu ofynion, na ellir eu cyfiawnhau.
Cyflwyniad
Cyfle gwych i ymuno â TrC fel Uwch Reolwr Prosiect TG mewn cyfnod cyffrous o drawsnewid. Bydd y rôl yn cyflawni nifer o brosiectau sy’n ymwneud â TG a Gwasanaethau Digidol er mwyn gwella effeithiolrwydd TrC fel sefydliad a gwella profiad defnyddwyr o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn unol â pholisi a strategaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn atebol am arwain a darparu portffolio o brosiectau sy’n ymwneud â TG a Gwasanaethau Digidol, yn bennaf o ran gwaith y rheilffordd a bod yn atebol am ddefnyddio methodolegau cylch bywyd prosiect cadarn (fel APM neu PRINCE 2), gan weithredu cynllun y prosiect, cyflawni cerrig milltir allweddol a rheoli adnoddau i sicrhau bod y rhain yn cael eu cwblhau’n ddiogel ac mewn da bryd, yn unol â’r gyllideb a’u bod o ansawdd.
Byddwch yn darparu gwasanaeth rheoli prosiectau proffesiynol ac effeithiol, gan gynnwys llywodraethu prosiect, adrodd yn ôl, gweithgorau technegol a grwpiau llywio gweithredol, yn unol â’r prosesau a’r amserlenni angenrheidiol i sicrhau bod y prosiectau’n cyd-fynd â phrosesau TrC a'u bod yn cael eu cyflawni yn unol â’r gyllideb a’u bod o safon.
Byddwch hefyd yn datblygu gweithdrefnau ar gyfer darparu prosiectau TG a Gwasanaethau Digidol a bod yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf i ddeddfwriaeth, gan weithio gyda’r gadwyn gyflenwi i sicrhau bod TrC a’i bartneriaid yn defnyddio’r arferion gorau.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydym yn chwilio am arweinydd prosiect TG profiadol sy’n gallu darparu prosiectau trawsnewid TG uchel eu gwerth, gan roi cyngor ac arweiniad i uwch dîm arwain TrC.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Senior IT Project Manager
Equal Opportunities
Transport for Wales (TfW) is an Equal Opportunities Employer, this means that all eligible people should have equality of opportunity for employment and advancement on the basis of their ability, qualifications and suitability for work. This means that no job candidate or employee should receive less favourable treatment on the grounds of: race; colour; sex; sexual orientation; age; marital status; disability; religion; or family/domestic responsibilities and working patterns e.g. part-time. Nor should any individual be disadvantaged by conditions or requirements, which cannot be shown to be justifiable.
Introduction
A fantastic opportunity to join TfW during it's exciting transformation as a Senior IT Project Manager. The role will deliver multiple IT and Digital Services related projects to improve the effectiveness of TfW as an organisation and to deliver improvements to the user experience of public transport services in line with Welsh Government transport policy and strategy.
Role responsibilities
You’ll be accountable for leading and delivering a portfolio of IT and Digital Services related projects, primarily in the rail arena, taking accountability for the application of robust project lifecycle methodologies (such as APM or PRINCE 2), implementation of project plans, attainment of key milestones and resource management to ensure these are completed safely to time, cost and quality.
You'll provide a professional and effective project management service, including project governance, reporting, technical working groups and executive steering groups, in accordance with the required processes and timelines to ensure the projects are aligned to TfW processes and delivered to cost and quality.
You'll also develop IT and Digital Services project delivery procedures keeping abreast with changes to legislation, working with the supply chain to ensure TfW and its delivery partners are using best practice methodologies.
Who we’re looking for
We’re looking for an experienced IT project leader who can deliver high value IT transformation projects, providing advice and guidance to TfW's senior leadership team.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.