Partner Busnes Cyllid (Rheoli Seilwaith)
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain, felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Dyma gyfle gwych i ymuno â TrC yn ystod cyfnod cyffrous o drawsnewid fel Partner Busnes Cyllid a fydd yn darparu cefnogaeth mewn partneriaeth i'r Gyfarwyddiaeth Rheoli Seilwaith Gweithrediadau Trafnidiaeth. Bydd y Partner Busnes Cyllid yn gweithio’n agos gyda’r Pennaeth Cyllid ynghyd â pherchnogion canolfannau costau a Rheolwyr Prosiectau i ddarparu cymorth ariannol masnachol i helpu gyda chynllunio, cyllidebu a rhagweld.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch chi’n gyfrifol am lunio cyfrifon rheoli misol a rhagolygon alldro ar gyfer canolfannau Rheoli seilwaith a rheoli cyfleusterau, drwy gyflawni mesurau rheoli, adrodd, adolygu a chroniadau diwedd y mis, i sicrhau bod gwariant o fewn cyllid cylch gwaith Llywodraeth Cymru.
Byddwch chi’n darparu dadansoddiad o berfformiad ariannol a gwybodaeth sy’n atgyfnerthu canlyniadau ariannol prosesau adnewyddu a chanfyddiadau o bwys i sicrhau bod Timau Masnachol a Rheolwyr Prosiect TrC yn gweithredu o fewn eu cylch gwaith, i ddal perchnogion cyllidebau yn atebol ac i helpu'r broses o wneud penderfyniadau effeithiol.
Byddwch chi’n helpu’r Pennaeth Cyllid (Seilwaith) i adolygu adroddiadau rheoli AIW a’i gydymffurfiad ag agweddau adrodd ariannol y Cytundeb Seilwaith, i adolygu perfformiad a chyflawniad AIW.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am gyfrifydd cymwysedig profiadol sydd â phrofiad o bartneriaethau busnes i ddarparu cymorth ariannol gweithredol.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Finance Business Partner (Infrastructure Management)
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
A fantastic opportunity to join TfW during an exciting period of transformation as a Finance Business Partner to provide partnered support to the Transport Operations Infrastructure Management Directorate. The Finance Business Partner will work closely with the Head of Finance and cost centre owners and Project Managers to provide commercial financial support to assist with planning, budgeting and forecasting.
Role responsibilities
You’ll be responsible for producing monthly management accounts and outturn forecast for Infrastructure Management and Facilities Management cost centres through completion of month end accruals, review, reporting and controls to ensure spend is within Welsh Government remit funding.
You'll provide financial performance analysis and insight, consolidating the financial results of renewals and material discoveries to ensure TfW Commercial Teams and Project Managers operate within remit, to hold budget owners to account and to support effective decision making.
You'll assist the Head of Finance (Infrastructure) with the review of AIW management reporting and compliance with financial reporting aspects of the Infrastructure Agreement to review AIW performance and delivery.
Who we’re looking for
We’re looking for an experienced qualified accountant who has experience of business partnering to provide operational finance support.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.