Uwch Gynllunydd Trafnidiaeth
Cyflwyniad
Dyma gyfle gwych i ymuno â Trafnidiaeth Cymru fel Uwch Gynllunydd Trafnidiaeth i ddarparu cymorth a chyngor technegol ynglyn â materion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth, gan gynnwys paratoi Achos Busnes ac arfarniad i’n cleientiaid ar draws ystod o brosiectau.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn rhoi cyngor ac arweiniad ar bolisi trafnidiaeth drwy ddarparu dogfennau ac arfarniadau a pharatoi achosion busnes, gan gyfeirio at Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) ar gyfer prosiectau camau cynnar hyd at adran opsiwn unigol, er mwyn galluogi TrC i roi cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol.
Byddwch yn darparu ystod o brosiectau ar yr un pryd drwy fodloni amserlenni prosiectau, cysylltu â’ch tîm, a defnyddio’r gadwyn gyflenwi lle bo angen, i gyflawni’r prosiectau yn unol â’r gyllideb, gan sicrhau eu bod o ansawdd da ac yn bodloni gofynion y cleientiaid.
Byddwch yn mentora ein Graddedigion a’n Prentisiaid drwy roi cyfleoedd dysgu, cyngor ac arweiniad iddynt er mwyn helpu’r tîm i ddatblygu gydag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am Gynllunydd Trafnidiaeth siartredig sydd â phrofiad o gyflawni nifer o brosiectau yn unol ag Arweiniad ar Arfarnu 1 a 2 Trafnidiaeth Cymru, yn ogystal â darparu achosion busnes strategol i gefnogi amryw o raglenni Metro Cymru.
Dyma rai gofynion sylfaenol:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Senior Transport Planner
Introduction
A fantastic opportunity to join Transport for Wales as a Senior Transport Planner to provide technical advice and support on transport related matters including Business Case preparation and appraisal to our clients across a range of projects.
Role responsibilities
You’ll provide transport policy advice and guidance by providing documentation, appraisals and preparing business cases with reference to WelTAG to early stage projects up to single option section to enable TfW to provide Welsh Government and Local Authorities expert advice.
You’ll deliver a range of projects concurrently by meeting project timescales, liaising with your team and using the supply chain where required to deliver the project to quality, budget and meet client requirements.
You’ll mentor our Graduates and Apprentices by providing them with learning opportunities, advice, and guidance to support the development of the team with a diverse range of skills and experience.
Who we’re looking for
We’re looking for a chartered Transport Planner with experience in delivering multiple projects in line with WelTAG 1 & 2, as well as providing strategic business cases to support various Wales Metro programmes.
As a minimum requirement you’ll have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.