Uwch Reolwr Masnachol
Lleoliad Caerdydd (gan symud i Bontypridd erbyn diwedd 2020)
Cyflwyniad
Mae cyfle newydd a chyffrous fel Uwch Reolwr Masnachol wedi codi yn ein tîm Perchennog Seilwaith / Gweithrediadau Rheilffyrdd, i chwarae rôl allweddol i sicrhau bod Rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd yn cael ei adnewyddu a’i gynnal a’i gadw’n llwyddiannus.
Cyfrifoldebau’r swydd
Monitro a lleihau'r achosion o dorri amodau’r drefn lywodraethu drwy weithio gyda’r timau Prosiectau a Rhaglenni, a chadw at weithdrefnau caffael a rheoli newid mewnol TrC sy’n berthnasol i’r Gyllideb Cynnal a Chadw a Gweithrediadau, i sicrhau trefn llywodraethu masnachol.
Arwain y gwaith o adrodd ar gostau prosiectau penodol fel rhan o fframwaith adrodd Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys rhagamcanu costau, costau terfynol disgwyliedig, cost gwaith a gyflawnir, bilio gros a gwerth y contract presennol; darparu dadansoddiad cadarn o gostau er mwyn darparu adroddiadau ariannol cadarn a chywir.
Byddwch hefyd yn adolygu sut mae contractwyr yn cyflenwi, drwy arwain y gwaith o brisio contractau gwerth canolig/risg ganolig a mynd i gyfarfodydd cynnydd i ddylanwadu ar ymddygiad, cyflawniad a gweithgarwch masnachol contractwyr.
Am bwy rydym yn chwilio
Rydym yn chwilio am Reolwr Masnachol profiadol sydd â hanes o reoli contractau masnachol yn llwyddiannus ac o ddarparu dadansoddiadau cadarn o gostau, yn ddelfrydol yn y diwydiant adeiladu neu seilwaith.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydym ni
Trafnidiaeth Cymru yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Senior Commercial Manager
Location
Cardiff (Relocating to Pontypridd by late 2020)
Introduction
A new and exciting opportunity as a Senior Commercial Manager has arisen in our Rail Operations / Infrastructure Owner team to play key role in ensuring the successful maintenance and renewal of the Core Valley Lines Network.
Role responsibilities
Monitor for and mitigate breaches of governance by working with the Programme and Project teams and adhering to the TfW procurement and internal change control procedures relevant to the Operations and Maintenance Budget to ensure commercial governance.
Lead cost reporting of allocated projects within the Transport for Wales reporting framework by conducting cost forecasting, anticipated final cost, cost of work done, gross billing and current contract value; provide robust cost analysis to provide robust and accurate financial reporting.
You’ll also be reviewing contractor delivery by leading valuation of medium value/medium risk contracts and attending progress meetings to actively influence contractors’ commercial behaviours, delivery and activity.
Who we’re looking for
We’re looking for an experienced Commercial Manager with a track record of successfully managing commercial contracts and providing robust cost analysis, ideally within the infrastructure or construction industry.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.