Cynorthwyydd Gweinyddol
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
“Cyfle gwych i ymuno â TrC mewn cyfnod cyffrous o drawsnewid fel Cynorthwyydd Gweinyddol i ddarparu cymorth gweinyddol ar draws y sefydliad, fel rhan o’r tîm Gwasanaethau Corfforaethol ac Ymgynghorol gyda thasgau gweinyddol o ddydd i ddydd i sicrhau bod y busnes yn cael ei redeg yn effeithlon.”
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn darparu cefnogaeth weinyddol gyffredinol, gan gynnwys derbyn a delio â galwadau ffôn sy’n dod i mewn, trefnu cyfarfodydd ac unrhyw dasgau gweinyddol eraill yn ôl yr angen i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaeth effeithiol.
Byddwch yn derbyn ac adolygu gohebiaeth sy'n dod i swyddfa TrC, gan eu hanfon ymlaen at y cydweithiwr neu’r adran gywir i sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu’n brydlon.
Byddwch yn rheoli a chynnal y blwch derbyn Gweinyddol a rennir drwy drefnu ymatebion i ohebiaeth, delio ag ymholiadau neu geisiadau a’u prosesu er mwyn cynnal gwasanaeth gweinyddol effeithlon i’r busnes.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Administration Assistant
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
A fantastic opportunity to join TfW in an exciting period of transformation as an Administration Assistant to provide administrative support across the organisation, as part of the Consultancy & Corporate Services team with day to day admin tasks to ensure the efficient operation of the business.
Role responsibilities
You’ll provide general administrative support, including receiving and dealing with incoming telephone calls, arranging meetings and any other administrative task as required to support the delivery of an effective service.
You'll receipt and scan incoming correspondence to the TfW office, forwarding on to the correct colleague or department to ensure timely accurate distribution.
You'll manage and maintain the shared Administration inbox through co-ordinating responses to correspondence, dealing with and processing any queries or requests raised to maintain an efficient administration service to the business.
Who we’re looking for
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.