Rheolwr Prosiect (Prosiectau Seilwaith)
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Cyfle gwych i ymuno â TrC fel Rheolwr Prosiect yn ystod cyfnod cyffrous o drawsnewid, i arwain y gwaith o gyflawni cynllun Amledd Uwch Cwm Ebwy yn unol â chylch gorchwyl Llywodraeth Cymru.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn arwain ac yn rheoli pob agwedd ar y cam cyn adeiladu (datblygu dyluniad) yn unol â Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015, gan sicrhau bod yr holl weithgareddau cyn adeiladu yn cael eu cyflawni’n effeithiol yn unol ag NEC.
Byddwch yn canfod, yn uwchgyfeirio ac yn lliniaru risg, drwy weithio gyda’r tîm risg i roi camau lliniaru ar waith cyn gynted â phosibl i'r perchnogion risg perthnasol er mwyn atal risgiau rhag troi’n broblemau, yn faterion a all achosi oedi gyda’r prosiect neu dorri rheolau iechyd a diogelwch.
Bydd hefyd angen i eirioli diwylliant diogelwch TrC drwy nodi lle gallai diogelwch fod dan fygythiad ac uwchgyfeirio hyn at yr uwch reolwyr os oes angen, er mwyn rhwystro hynny rhag effeithio ar ein pobl, y prosiect a / neu’r sefydliad.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am Reolwr Prosiect profiadol sydd â phrofiad o ddarparu prosiectau rheilffyrdd amlddisgyblaethol, gyda gwybodaeth am NEC3 a Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli).
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Project Manager (Infrastructure Projects)
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
A fantastic opportunity to join TfW during an exciting period of transformation as a Project Manager to lead with the delivery the Ebbw Valley Frequency Enhancements scheme in accordance with Welsh Governments remit.
Role responsibilities
You’ll be lead and manage all areas of the preconstruction stage (design development) in accordance with CDM 2015, ensuring that all preconstruction activities are administered effectively in-line with NEC.
You'll identify, escalate and mitigate project risk, by working with the risk team to implement mitigating actions at the earliest opportunity to the relevant risk owners in order to prevent risks materialising into issues, project delays or health & safety infringements.
You'll also need to advocate TfW’s safety culture by identifying where safety could be compromised and escalating this to senior management if needed, in order to prevent impact to our people, the project and / or the organisation.
Who we’re looking for
We’re looking for an experienced Project Manager who has experience of delivering multi-disciplinary rail projects, with knowledge of NEC3 and Construction Design & Management (CDM).
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.