Rheolwr Gweithrediadau Cyfnewidfa Bysiau
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
CyflwyniadDyma gyfle gwych i ymuno â Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel Rheolwr Gweithrediadau Cyfnewidfa Bysiau i ddarparu’r arweinyddiaeth strategol o ran rheoli gorsafoedd bysiau TrC yn ddiogel ac yn effeithlon, gan roi profiad rhagorol i gwsmeriaid drwy arwain tîm sy’n perfformio’n dda.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn darparu goruchwyliaeth broffesiynol i gyflwyno gwasanaethau cyfnewidfa bysiau yn y dyfodol, drwy arwain y gwaith o ddatblygu gweithdrefnau a safonau gweithredol, gan gynnwys diogelwch, a pharatoi cynlluniau Mynediad i Wasanaeth a chynlluniau Gweithredol ar gyfer pob gorsaf fysiau i sicrhau bod y busnes yn gwbl weithredol barod i dderbyn unrhyw ddarpariaeth ychwanegol.
Byddwch yn rheoli’r ddarpariaeth weithredol drwy bennu a chytuno ar gyllideb a gweithio gyda’r Pennaeth Cyflawni Gwasanaethau a’r Pennaeth Gweithrediadau Trafnidiaeth Cyllid i sicrhau bod TrC yn darparu ei ddarpariaeth weithredol ar gyfer cyfnewidfeydd bysiau yn ôl cost, ansawdd a gwerth am arian.
Byddwch yn rheoli’r holl gytundebau gweithredol sydd ar waith gyda gweithredwyr bysiau a chyflenwyr eraill, drwy reoli contractau gyda darparwyr trydydd parti ar draws gwasanaethau TrC yn unol â rheolau caffael y sector cyhoeddus er mwyn darparu adroddiadau rheolaidd i’r Pennaeth Cyflawni Gwasanaethau ar faterion gweithredol a chytundebol.
Byddwch yn darparu cyfnewidfa bws ddiogel i gwsmeriaid TrC drwy reoli cydymffurfiad â’r amodau Iechyd, Diogelwch, Amgylcheddol, deddfwriaethol a Thrwydded Gweithredwr sy’n benodol i’r diwydiant, yn ogystal â’r polisïau a’r gweithdrefnau gadael mewn argyfwng, i sicrhau bod TrC yn lliniaru risg teithwyr a risg gorfforaethol yn effeithiol.
Am bwy rydyn ni’n chwilioRydyn ni’n chwilio am rywun sydd â phrofiad amlwg o reoli nifer o safleoedd trafnidiaeth weithredol a rheoli timau gweithrediadau mawr ar draws nifer o safleoedd.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Byddai’r canlynol o fudd hefyd:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Buddion
28 diwrnod o wyliau (heb gynnwys gwyliau banc)
Cyfraniad pensiwn o 8%
4 x marw yn y swydd
Buddion hyblyg (gan gynnwys Cynllun Prydlesu Ceir Trydan a Beicio i’r Gwaith)
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bus Interchange Operations Manager
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction A great opportunity to join Transport for Wales (TfW) as a Bus Interchange Operations Manager to provide the strategic leadership on the safe and efficient management of TfW operated bus stations, delivering an exemplary customer experience by leading a high performing team.
Role responsibilities
You’ll provide professional oversight to the introduction of future bus interchange services, by leading on the development of operational procedures and standards, including safety, and preparing Entry into Service and Operational plans for all bus stations to ensure that the business is fully operationally ready to accept any increased provision.
You’ll manage the operational provision by setting and agreeing a budget and working with the Head of Service Delivery and Head of Finance Transport Operations to ensure TfW delivers its bus interchange operational provision to cost, quality and value for money.
You’ll manage all operational agreements in place with bus operators and other suppliers, by managing contracts with 3rd party providers across TfW service delivery in line with public sector procurement rules to provide regular reports to the Head of Service Delivery on operational and contractual issues.
You’ll provide a safe bus interchange to TfW's customers by governing compliance the various industry specific Health, Safety, Environmental, legislative and Operator's Licence conditions, as well as the emergency evacuation policies and procedures, to ensure TfW effectively mitigates passenger risk and corporate risk.
Who we’re looking forWe’re looking for someone who has proven experience managing multiple operational transport sites and managing large operations teams across multiple sites.
You’ll need to have:
It would be beneficial if you also had:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Benefits
28 days holiday (excluding bank holidays)
8% pension contribution
4 x death in service
Flexible benefits (including Electric Car Lease Scheme and Cycle to Work)
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.