Cydlynydd Diogelwch
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Cyfle cyffrous i ymuno â TrC fel Cydlynydd Diogelwch i ddarparu cymorth ac arweiniad gweinyddol proffesiynol i holl feysydd busnes TrC a’n partneriaid mewn materion sy’n ymwneud â strategaethau iechyd, diogelwch a lles, gan ystyried arferion gorau ac anghenion gweithredol y busnes i sicrhau bod TrC yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu diwylliant diogelwch drwy gynnal system rheoli iechyd a diogelwch TrC. Byddwch yn cefnogi gwahanol feysydd y busnes mewn adolygiadau rheolaidd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r holl reoliadau a deddfwriaeth statudol.
Byddwch yn cydlynu’r hyfforddiant diogelwch a lles ar gyfer holl staff TrC drwy weithio gydag Adnoddau Dynol i raeadru modiwlau hyfforddiant perthnasol i staff.
Byddwch yn cymryd cyfrifoldeb allweddol dros archebu a darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) drwy gysylltu â chaffael, cysylltu â chyflenwyr trydydd parti a chodi’r Gorchymyn Prynu priodol i sicrhau bod yr holl staff safle yn cydymffurfio â safonau Iechyd a Diogelwch.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am weithiwr diogelwch proffesiynol uchelgeisiol sydd â gwybodaeth am ddeddfwriaeth, y gallu i gynghori staff a’r gallu i ddadansoddi data diogelwch er mwyn parhau i ddatblygu diwylliant diogelwch TrC ymhellach.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Safety Coordinator
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
An exciting opportunity to join TfW as a Safety Coordinator to provide professional administrative support and guidance to all business areas of TfW and our partners in matters relating to health, safety and wellbeing strategies, considering best practice and the operational needs of the business to ensure TfW is compliant with all relevant health and safety legislation.
Role responsibilities
You’ll support the development of a safety culture by maintaining TfW’s health and safety management system by actively supporting the different areas of the business in regular reviews to ensuring compliance to all statutory legislation and regulation.
You'll coordinate the safety and wellbeing training for all TfW staff by working with Human Resources to cascade relevant training modules for staff.
You'll be taking key responsibility for the ordering and issue of personal protective equipment (PPE) by liaising with procurement, contacting third party suppliers and raising the appropriate Purchase Order (PO) to ensure all site staff are compliant with Health and Safety standards.
Who we’re looking for
We’re looking for an aspiring safety professional who has knowledge of legislation, ability to advice staff and analyse safety data to further continue TfW’s development of its safety culture.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.