Uwch Reolwr Prosiectau
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
CyflwyniadCyfle gwych i ymuno â Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel Uwch Reolwr Prosiect i gyflawni sawl prosiect sy’n ymwneud â thrafnidiaeth i wella gwasanaethau trafnidiaeth yn unol â pholisi a strategaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn atebol am arwain a chanolbwyntio ar ddatblygu portffolio o brosiectau sy’n ymwneud ag adfywio a thrafnidiaeth, ac yn atebol am ddefnyddio methodolegau cylch bywyd prosiect cadarn (fel APM neu PRINCE 2), gan weithredu cynllun y prosiect, cyflawni cerrig milltir allweddol a rheoli adnoddau i sicrhau bod y rhain yn cael eu cwblhau’n ddiogel, o safon, mewn da bryd ac yn unol â’r gyllideb.
Byddwch yn darparu gwasanaeth rheoli prosiectau proffesiynol ac effeithiol, gan gynnwys llywodraethu prosiect, adrodd, gweithgorau technegol a grwpiau llywio gweithredol, yn unol â’r prosesau a’r amserlenni angenrheidiol i sicrhau bod y prosiectau’n cyd-fynd â phrosesau TrC a’u bod yn cael eu cyflawni o safon ac yn unol â’r gyllideb.
Byddwch yn datblygu gweithdrefnau ar gyfer prosiectau Cynllunio Trafnidiaeth TrC drwy ymgynghori rheoleiddiol a bod yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf i ddeddfwriaeth, gan weithio gyda’r gadwyn gyflenwi i sicrhau bod TrC a’i bartneriaid yn defnyddio’r arferion gorau.
Byddwch yn rheoli ac yn arwain timau prosiectau a rhaglenni drwy gydweithio â chydweithwyr mewnol, contractwyr allanol, rhanddeiliaid a’r gadwyn gyflenwi i sicrhau bod y prosiectau’n cyflawni canlyniadau. Chi fydd y prif bwynt cyswllt i’r partneriaid allanol a rhanddeiliaid allweddol, yn arbennig aelodau o fyrddau strategaeth rhaglenni, grwpiau llywio a phartneriaid y diwydiant (Network Rail, Seilwaith TrC, Awdurdodau Lleol, Cyrff Dinas-ranbarthau, Cyfleustodau, Llywodraeth Cymru - yn arbennig timau rhanbarthol).
Am bwy rydyn ni’n chwilioRydyn ni’n chwilio am rywun sydd â chefndir ym maes adfywio neu gynllunio ac sydd â chymhwyster rheoli prosiectau a phrofiad o fod yn rheolwr prosiect. Rhaid bod gennych chi brofiad o weithio ar brosiectau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth, gyda gwybodaeth fanwl am reoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Byddai’r canlynol o fudd hefyd:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Senior Project Manager
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction A great opportunity to join Transport for Wales (TfW) as a Senior Project Manager to deliver multiple transport related projects to improve transport services in line with Welsh Government transport policy and strategy.
Role responsibilities
You’ll be accountable for leading and focus on advancing a portfolio of transport and regeneration related projects, taking accountability for the application of robust project lifecycle methodologies (such as APM or PRINCE 2), implementation of project plans, attainment of key milestones and resource management to ensure these are completed safely to time, cost and quality.
You’ll provide a professional and effective project management service, including project governance, reporting, technical working groups and executive steering groups, in accordance with the required processes and timelines to ensure the projects are aligned to TfW processes and delivered to cost and quality.
You’ll develop TfW Transport Planning project procedures by regulatory consulting and keeping abreast with changes to legislation, working with the supply chain to ensure TfW and its delivery partners are using methods of best practice.
You’ll manage and lead project and programme teams by collaborating with internal colleagues, external contractors, stakeholders and supply chain to ensure projects deliver outcomes. To be the primary point of contact for external partners and key stakeholders -esp. members of programme strategy boards and steering groups, industry partners (Network Rail, TfW Infrastructure, Local Authorities, City Regions bodies, Utilities, Welsh Government - esp. regional teams).
Who we’re looking forWe’re looking for someone who has planning or regeneration background and has experience as a project manager and project manager qualification. You must have experience working on transport related projected with an indepth knowledge of health, safety and environmental regulations.
You’ll need to have:
It would be beneficial if you also had:
Welsh language skills but not essential for the role.
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.