Swyddog Cyfathrebu
Math o Gontract: Contract Cyfnod Penodol – 6 Mis
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â TrC fel Swyddog Cyfathrebu i ddarparu cymorth hanfodol wrth ddatblygu a chyflwyno rhaglen gyfathrebu strategol lwyddiannus a hirdymor i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cynnig y gwasanaeth cyfathrebu gorau posibl i bobl, i gwsmeriaid ac i randdeiliaid y cwmni.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn darparu cymorth cyfathrebu o ddydd i ddydd i’r Partneriaid Busnes Cyfathrebu drwy gynnig y lefel iawn o gymorth cyfathrebu, a hynny’n effeithiol, i sicrhau bod y cyngor iawn yn cael ei roi i gefnogi'r gwaith o gyflwyno rhaglenni a phrosiectau allweddol ar draws cyfarwyddiaethau dynodedig.
Byddwch yn darparu’r prosiect o ddydd i ddydd drwy ysgrifennu cynnwys a chysylltu â rheolwr y prosiect i sicrhau bod y tasgau cyfathrebu perthnasol yn cael eu cyflawni i gefnogi’r gwaith o gyflwyno rhaglenni a phrosiectau allweddol ar draws y cyfarwyddiaethau dynodedig.
Byddwch hefyd yn llysgennad allweddol ar gyfer dull cyfathrebu TrC, gan sicrhau bod y gwaith cyfathrebu yn cyd-fynd â’n gweledigaeth a’n gwerthoedd i sicrhau bod safonau, dull a negeseuon cyfathrebu TrC yn gyson ar draws y sefydliad a’i sianeli cyfathrebu.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Communications Officer
Contract Type: Fixed Term Contract – 6 Months
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
An exciting opportunity to join TfW as Communications Officer to provide essential support in the development and delivery of a successful and long-term strategic programme of communications to ensure Transport for Wales offers the best in the business communications service for its people, its customers and stakeholders.
Role responsibilities
You’ll provide day-to-day communications support to the Communications Business Partners by effectively offering the right level of communications support to ensure the right advice is given to support the delivery for key projects and programmes across designated directorates.
You'll deliver day-to-day project delivery by writing content and liaising with the project manager to ensure that relevant communications tasks are actioned to support the delivery of key projects and programmes across the designated directorates.
You'll also be a key ambassador for TfW’’s communications approach, making sure communications activity is aligned to our vision and values to ensure TfW has a consistent standard, approach and messaging in its communications across the organisation and its communication channels.
Who we’re looking for
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.