Rheolwr Rhaglen
Lleoliad: Trefforest a Chaerdydd (Pontypridd o ddiwedd 2020 ymlaen)
Cyflwyniad
Cyfle gwych i ymuno â’n tîm seilwaith fel Rheolwr Rhaglen i arwain portffolio gwaith amrywiol, gan fynd â phrosiectau o’r cam datblygu hyd at eu cyflawni’n llwyddiannus ac yn ddiogel drwy reoli contract wedi’i reoleiddio.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn rheoli tîm bach i oruchwylio’n gwaith o gynllunio, rheoli a chyflawni pob prosiect portffolio drwy ddilyn prosesau cylch bywyd prosiect er mwyn sicrhau bod y tîm yn gallu darparu’n ddiogel, yn brydlon ac yn unol â’r gyllideb a’r ansawdd disgwyliedig.
Byddwch yn darparu trefn lywodraethu iechyd a diogelwch drwy nodi a mapio dyletswyddau Rheoli Dyluniad Adeiladu (CDM) 2015 ar gyfer prosiectau o fewn y portffolio gwaith er mwyn cynnal cydymffurfiad.
Byddwch hefyd yn rheoli’r gwaith o sefydlu llinell sylfaen gychwynnol y prosiect er mwyn gallu mesur a rheoli'n effeithiol; bydd y llinell sylfaen yn cwmpasu dogfennau'r prosiect, y prif bethau sydd i’w cyflawni, y strategaeth gyflawni, gofynion o ran adnoddau, allbynnau/mesurau, risgiau, dyddiadau allweddol a gwybodaeth am gostau.
Am bwy rydym yn chwilio:
Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiect neu Raglen profiadol sydd â phrofiad o arwain tîm i ddarparu amrywiaeth o brosiectau peirianneg sifil cymhleth ac sydd â gwerth uchel.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydym ni
Trafnidiaeth Cymru yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Programme Manager
Location: Treforest & Cardiff (Pontypridd from late 2020)
Introduction
A fantastic opportunity to join our infrastructure team as a Programme Manager to lead a varied portfolio of work, taking projects through development to successful, safe delivery by regulated contract management.
Role responsibilities
You’ll manage a small team to oversee the planning, management and delivery of all portfolio projects by following the project lifecycle processes to ensure the team can deliver safely, on time, to cost and to quality.
You'll provide health and safety governance by identifying and mapping out Construction Design Management (CDM) 2015 obligations for projects within the portfolio of works to maintain compliance.
You’ll also manage the establishment of the initial project baseline to provide effective measurement and control; the baseline will encompass project documentation, key deliverables, delivery strategy, resource requirements, outputs/measures, risks, key dates and cost information.
Who we’re looking for:
We’re looking for an experienced Project or Programme Manager who has experience of leading a team to deliver a range of high-value and complex civil engineering projects.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.