Archwilydd Mewnol
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gyflogwr Cyfle Cyfartal, mae hyn yn golygu y dylai pob un cymwys gael cyfle cyfartal i gael swydd a dyrchafiad ar sail ei allu, ei gymwysterau a’i addasrwydd ar gyfer y gwaith. Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw ymgeisydd na gweithiwr gael ei drin yn llai ffafriol ar sail: hil; lliw; rhyw; cyfeiriadedd rhywiol; oedran; statws priodasol, anabledd; crefydd; cyfrifoldebau teuluol/domestig a phatrymau gwaith, ee rhan-amser. Ni ddylid ychwaith roi unrhyw unigolyn dan anfantais oherwydd amodau neu ofynion, na ellir eu cyfiawnhau.
Cyflwyniad
Cyfle gwych i ymuno â TrC mewn cyfnod trawsnewid cyffrous fel Archwilydd Mewnol. Cynnal archwiliadau mewnol gyda’r nod o wella’n barhaus fel rhan o’r strwythur sicrwydd yn Trafnidiaeth Cymru (TrC).
Cyfrifoldebau’r swydd
Cynllunio a rheoli eich gweithgaredd archwilio drwy gysylltu â’ch Rheolwr Archwilio Mewnol am gyfarwyddyd a blaenoriaethu’r rhaglen archwilio i wneud yn siwr eich bod yn gallu cyrraedd dyddiadau terfyn archwiliadau mewnol yn effeithiol o ran amser ac ansawdd.
Byddwch yn Creu Cylch Gorchwyl drwy ymchwilio i feysydd pwnc archwilio er mwyn cytuno ar y cylch gorchwyl ar gyfer cwblhau’r cynllun archwilio blynyddol.
Byddwch hefyd yn cynnal archwiliad drwy sefydlu pa bolisïau a gweithdrefnau sy’n bodoli a pha mor gydnaws yw TrC â phrosesau cymeradwy i gynhyrchu argymhellion ar gyfer gwella prosesau.
Am bwy rydyn ni’n chwilio:
Rydyn ni’n chwilio am Archwilydd neu Gyfrifydd profiadol sy’n gallu cyflawni archwiliadau mewnol tra’n canolbwyntio ar amcanion o welliant parhaus.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Internal Auditor
Equal Opportunities
Transport for Wales (TfW) is an Equal Opportunities Employer, this means that all eligible people should have equality of opportunity for employment and advancement on the basis of their ability, qualifications and suitability for work. This means that no job candidate or employee should receive less favourable treatment on the grounds of: race; colour; sex; sexual orientation; age; marital status; disability; religion; or family/domestic responsibilities and working patterns e.g. part-time. Nor should any individual be disadvantaged by conditions or requirements, which cannot be shown to be justifiable.
Introduction
A fantastic opportunity to join TfW during it's exciting transformation as an Internal Auditor. The role will undertake internal audits with an objective of continuous improvement as a part of the assurance structure within TfW.
Role responsibilities
You’ll plan and manage your audit activity by liaising with your Internal Audit Manager for direction and prioritising of the audit programme to ensure you can effectively meet internal audit deadlines to time and quality.
You'll create Terms of Reference (TOR) by researching audit topic areas in order to agree the terms of reference for completion of the annual audit plan.
You'll also undertake an audit by establishing what policies and procedures exist and how compliant TfW are with approved processes to generate recommendations for process improvements.
Who we’re looking for:
We’re looking for an experienced Auditor or Accountant who can deliver internal audits whilst focusing on objectives of continuous improvement.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.