Cogydd y Gwasanaeth Premier (Caerdydd)
Rhagarweiniad
Cyfle gwych i ymuno â Trafnidiaeth Cymru (TrC) ar ein Gwasanaeth ‘Gerald’ enwog a blaenllaw fel Cogydd y Gwasanaeth Premier, i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm i gyflenwi’r fwydlen arlwyo ar y trên i ddarparu bwyd o safon eithriadol o uchel i deithwyr yn eu sedd ac yn y cownter bwffe.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn darparu profiad ciniawa o safon uchel drwy gynllunio a chyflenwi bwydlenni ar gyfer y Gwasanaeth Premier, i sicrhau bod y gwasanaeth a’r gofal a roddir yn cyrraedd safon eithriadol o uchel o ddydd i ddydd.
Byddwch yn gyfrifol am gynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau bwyd i’n cwsmeriaid drwy gynllunio a chreu ein bwydlenni, cadw cofnod cywir o’r holl stoc a phryniannau, yn ogystal â rhoi gwybod am unrhyw ddiffygion ar offer coginio i ddarparu gwasanaeth cyson o safon uchel.
Byddwch yn cynnal perthynas waith broffesiynol â rhanddeiliaid allanol, cyflenwyr, rheolwyr a staff, gan gynnwys y cogyddion a’r swyddogion gweini cwsmeriaid eraill drwy gysylltu’n rheolaidd i ymgorffori syniadau, dulliau arfer gorau a heriau i sicrhau bod TrC yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl.
Am bwy rydyn ni’n chwilio:
Rydym yn chwilio am Gogyddion profiadol sy’n gallu defnyddio eu sgiliau coginio creadigol i ddylunio a chyflenwi ein bwydlen fwyd i’n teithwyr Dosbarth Busnes er mwyn cynnal parch ac enw da’r Gwasanaeth ‘Gerald’.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Byddai’r canlynol o fudd hefyd:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Iaith Gymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gwneud cais
Premier Service Chef (Cardiff)
Introduction
An amazing opportunity to join Transport for Wales (TfW) on our famous 1st class Gerald Service as a Premier Chef to work independently and as part of a team to deliver the on-board catering menu to provide an exceptionally high standard of at seat and buffet counter food to passengers.
Role responsibilities
You’ll deliver a high-quality dining experience by planning and executing menus for the Premier Service to ensure that an exceptionally high level of quality and care is given and maintained on a day to day basis.
You'll be responsible for offering our customers a wide range of dining menu choices by designing and creating our menus, accurately accounting for all stock and purchases, as well as reporting any defects with cooking equipment to provide a consistent and high-quality service offering.
You'll be maintaining professional working relationships with external stakeholders, suppliers, management and staff including the other chefs and customer hosts by regularly liaising to incorporate ideas, methods of best practice and challenge to ensure TfW provides to best possible service.
Who we’re looking for:
We’re looking for experienced Chefs who can use their creative culinary skills to design and deliver our dining menu to our Business Class passengers to maintain the Gerald Service's high esteem and reputation.
You’ll need to have:
It would be beneficial if you also had:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but not essential for this role.
Apply