Rheolwr Rhaglen
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Dyma gyfle gwych i ymuno â TrC yn ystod cyfnod cyffrous o drawsnewid fel Rheolwr Rhaglen i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o arwain portffolio gwaith amrywiol, gan fynd â phrosiectau o’r cam datblygu hyd at eu cyflawni’n llwyddiannus ac yn ddiogel drwy reoli contract wedi’i reoleiddio.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn goruchwylio’r gwaith o gynllunio, rheoli a chyflawni pob prosiect portffolio drwy ddilyn prosesau cylch bywyd prosiect er mwyn sicrhau bod y tîm yn gallu darparu’n ddiogel, yn brydlon ac yn unol â’r gyllideb a’r ansawdd disgwyliedig.
Byddwch yn darparu trefn lywodraethu iechyd a diogelwch drwy nodi a mapio dyletswyddau Rheoli Dyluniad Adeiladu (CDM) 2015 ar gyfer prosiectau o fewn y portffolio gwaith er mwyn cynnal cydymffurfiad.
Byddwch yn rheoli’r gwaith o sefydlu llinell sylfaen gychwynnol y prosiect er mwyn gallu mesur a rheoli'n effeithiol; bydd y llinell sylfaen yn cwmpasu dogfennau'r prosiect, y prif bethau sydd i’w cyflawni, y strategaeth gyflawni, gofynion o ran adnoddau, allbynnau/mesurau, risgiau, dyddiadau allweddol a gwybodaeth am gostau.
Am bwy rydyn ni’n chwilio:
Rydyn ni’n chwilio am Reolwr Prosiect/Rhaglen sifil neu reilffyrdd profiadol sy’n gallu defnyddio eu profiad o ddarparu prosiectau amlddisgyblaethol a rheoli contractau cymhleth i gyflawni rhai o’r prosiectau seilwaith mwyaf cyffrous yng Nghymru.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Programme Manager
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
A fantastic opportunity to join TfW during it's exciting transformation as a The Programme Manager to play a key role in leading a varied portfolio of work, taking projects through development to successful, safe delivery by regulated contract management.
Role responsibilities
You’ll oversee planning, management and delivery of all portfolio projects by following the project lifecycle processes to ensure the team can deliver safely, on time, to cost and to quality.
You'll provide health and safety governance by identifying and mapping out Construction Design Management (CDM) 2015 obligations for projects within the portfolio of works to maintain compliance.
You'll manage the establishment of the initial project baseline to provide effective measurement and control; the baseline will encompass project documentation, key deliverables, delivery strategy, resource requirements, outputs/measures, risks, key dates and cost information.
Who we’re looking for:
We’re looking for an experienced civils or rail Project/Programme Manager who can leverage their experience of delivering multi-disciplinary projects and managing complex contracts to deliver some of the most exciting infrastructure projects in Wales.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.