Uwch Beiriannydd Prosiectau
Cyflwyniad
Cyfle gwych i ymuno â’n tîm Peirianneg fel Uwch Beiriannydd Prosiectau i ddarparu llywodraethiant ac arweiniad ym maes peirianneg i brosiect(au) TrC.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn arwain gweithgareddau peirianneg drwy gydol y prosiect i sicrhau bod y prosiect yn diwallu gofynion peirianneg, targedau perfformiad a dibynadwyedd o fewn cyfyngiadau amser, cost ac ansawdd.
Byddwch yn gweithio gyda thîm TrC i ddatblygu a chynnal cyfres o safonau a gweithdrefnau newydd i sicrhau bod prosiectau TrC yn ddiogel, eu bod yn rhyngweithredu, eu bod yn cydymffurfio'n dechnegol a’u bod yn cael eu cyflawni i'r safon a bennwyd, a hynny o fewn y cyfyngiadau o ran amser a chostau.
Byddwch hefyd yn datblygu dogfennau cwmpasu ar gyfer y prosiect, Rheolaeth Peirianneg a Chynlluniau Diffinio Systemau, i nodi sut mae pob prosiect yn cael ei gyflawni ac i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith.
Am bwy rydyn ni’n chwilio:
Rydym yn chwilio am Beiriannydd Siartredig sy’n gallu defnyddio ei brofiad o gyflenwi prosiectau seilwaith er mwyn arwain tîm yn effeithiol i ddarparu amrywiaeth o brosiectau TrC.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Iaith Gymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Senior Project Engineer
Introduction
A fabulous opportunity to join our Engineering team as a Senior Project Engineer provide engineering governance and leadership on TfW project(s).
Role responsibilities
You’ll be leading the engineering activities throughout the project lifecycle to ensure the project satisfies engineering requirements, performance and reliability targets within constraints of time, cost and quality.
You’ll work with the TfW team to develop and maintain a new suite of standards and procedures to ensure TfW projects are safe, interoperable, technically compliant and are delivered to the specified quality within constraints of time and cost.
You’ll also develop project scoping documents, Engineering Management and System Definition Plans specifying how each project is being delivered and to ensure legal compliance.
Who we’re looking for:
We’re looking for and Chartered Engineer who can use their experience of delivering infrastructure projects to effectively lead a team to deliver a range of TfW projects.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.