Cydlynydd Cymorth Busnes
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â TrC fel Cydlynydd Cymorth Busnes i gefnogi’r gwaith o sefydlu a thyfu Adran Gwasanaethau TG a Digidol TrC yn effeithiol er mwyn darparu cymorth busnes a gweinyddol.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn darparu cymorth gweinyddol i’r Cyfarwyddwr TG a Gwasanaethau Digidol – trefnu cyfarfodydd, rheoli amser ar eu dyddiadur, rhoi cymorth gydag e-bost, a gwneud gwaith gweinyddol cyffredinol.
Byddwch yn darparu cymorth i brosiectau TG penodol yn ôl y gofyn drwy gysylltu â’r gwahanol dimau cyflawni prosiectau i sicrhau bod y timau TG yn gallu cyflawni’r prosiect yn unol â’r gyllideb a sicrhau ansawdd.
Byddwch yn cefnogi’r Cyfarwyddwr ac eraill ar draws y timau TG a Rhaglenni ehangach drwy gymryd nodiadau mewn cyfarfodydd, mynd ar drywydd camau gweithredu a pharatoi sleidiau a deunyddiau eraill sydd eu hangen ar gyfer cyfarfodydd, a dosbarthu pecynnau dogfennau cyn y cyfarfod.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol ym maes gweinyddu neu gefnogi prosiectau i ddarparu amrywiaeth eang o waith cefnogi a gweinyddu prosiectau a gweinyddu er mwyn helpu gyda darparu gwasanaeth TG a rhaglenni TrC.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Business Support Coordinator
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
An exciting opportunity to join TfW as a Business Support Coordinator to support the effective establishment and growth of the IT and Digital Services Department within TfW delivery of business and administrative support.
Role responsibilities
You’ll provide administration support to the Director of IT and Digital Services - arranging meetings, managing diary time, support with email, and general administration.
You'll provide support to specific IT projects as required by liaising with the various project delivery teams to ensure the IT teams can delivery project to time cost and quality.
You'll support the Director and others across the wider IT and Programme teams with note taking in meetings, chasing actions and preparation of slides and other materials needed for meetings, and issue of pre-meeting document packs.
Who we’re looking for
We’re looking for an experience administration or project support professional to provide a wide range of project delivery support and administration to assist with TfW’s IT service and programme delivery.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.