Rheolwr Masnachol Cynorthwyol
Cyflwyniad
Cyfle gwych i ymuno â thîm Seilwaith Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel Rheolwr Masnachol Cynorthwyol a fydd yn gweithio yn y tîm Prosiectau Seilwaith ac yn chwarae rôl allweddol o ran sicrhau bod Prosiectau Seilwaith yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus ledled Cymru.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn darparu cefnogaeth i’r broses o werthuso tendrau drwy weithio gyda thîm y prosiect a'r rheolwr masnachol i fesur, i asesu ac i brisio cynigion/tendrau contractwyr, i sicrhau cymhwysedd a pherfformiad masnachol y contractwr.
Byddwch yn cefnogi’r Rheolwr Masnachol i reoli’r gwaith o asesu a phrisio ceisiadau contractwyr drwy brosesu ardystiadau talu yn unol â phrosesau Trafnidiaeth Cymru.
Byddwch yn cefnogi’r gwaith o gwblhau setliadau’r cyfrifon terfynol a gwaith cysoni mewnol i hwyluso’r broses o ddod â nhw i ben yn unol ag awdurdod y prosiect a chynllun y prosiect, o fewn amserlenni y cytunir arnynt.
Am bwy rydyn ni’n chwilio:
Rydym yn chwilio am ddarpar Reolwr Masnachol, sydd â phrofiad blaenorol o rôl fasnachol neu gyllid a’r gallu i ddarparu rhagolygon a chyllidebu cywir.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Iaith Gymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Assistant Commercial Manager
Introduction
A fantastic opportunity to join Transport for Wales’ (TfW) Infrastructure team as an Assistant Commercial Manager will work within Infrastructure Projects team and have a key role in ensuring the successful delivery of Infrastructure Projects across Wales.
Role responsibilities
You’ll provide support to the tender evaluation process by working with the project team and commercial manager in the measurement, assessment and valuation of contractor tenders/bids to ensure both the contractor’s competence and commercial performance.
You’ll support the Commercial Manager in managing the assessment and valuation of contractor applications by processing payment certifications in accordance with Transport for Wales processes.
You’ll also assist with the completion of final account settlements and internal reconciliations to facilitate project close out as per the project authority and project plan within agreed timescales.
Who we’re looking for:
We’re looking for an aspiring Commercial Manager, who has previously experience in a commercial or finance role and the ability to provide accurate forecasting and budgeting.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but not essential for this role.