Swyddog Arwain Pensiynau
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o brif gyflogwyr cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Dyma gyfle gwych i ymuno â TrC yn ystod cyfnod cyffrous o drawsnewid fel yr Arweinydd Pensiynau i roi cyngor technegol ac arbenigedd technegol ar yr holl bensiynau ym mhortffolio TrC.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn atebol am sicrhau bod TrC yn llywodraethu’n briodol drwy fonitro cydymffurfiad y Rheolwr Pensiynau â deddfwriaeth Pensiynau i sicrhau bod portffolio pensiynau TrC yn cadw at ddyletswyddau llywodraethu ac ymddiriedol.
Byddwch yn cynnal hyfywedd y cynllun drwy ddilyn y cyngor a roddwyd gan actiwarïaid y cynllun a chysylltu â Chyfarwyddwr Cyllid Rheilffyrdd TrC i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu canlyniadau prisiad ei gynllun pensiwn dair gwaith y flwyddyn.
Byddwch yn gyfrifol am y cyfraniadau i gynlluniau Nyth drwy gysylltu ag actiwarïaid y cynllun a dilyn y cyngor ar y cyfraniad priodol i sicrhau bod y cynllun yn cael ei ddiweddaru a’i gadw’n ddiddyled.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol ym maes pensiynau, sydd â phrofiad o reoli nifer o gynlluniau pensiwn a’r gallu i gynghori uwch arweinwyr.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Pensions Lead
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
A fantastic opportunity to join TfW during an exciting period of transformation as the Pensions Lead to provide technical advice and technical expertise on all pensions within the TfW portfolio.
Role responsibilities
You’ll be accountable for TfW having the appropriate governance in place by monitoring Pension's Manager compliance with Pensions legislation to ensure TfW's pensions portfolio is adhering to governance and fiduciary duties.
You'll maintain the scheme's solvency by following the advice given by the scheme's actuaries and liaising with the TfW Rail Finance Director to ensure that TfW Rail implements the outcomes of the tri-annual valuation of its pension scheme.
You'll be responsible for the contributions to the Nests schemes by liaising with the scheme's actuaries and following the advice on the appropriate contribution to ensure the scheme is kept up to date and solvent.
Who we’re looking for
We’re looking for an experienced pensions professional, who has experience of managing multiple pensions schemes with the ability to advise senior leadership.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.