Rheolwr Caffael
Lleoliad: Caerdydd (gan symud i Bontypridd erbyn diwedd 2020)
Cyflwyniad
Cyfle cyffrous i ymuno â’n tîm caffael sy’n tyfu fel Rheolwr Caffael i gyfrannu at bob agwedd ar y broses dendro, gan gynnwys cyhoeddi hysbysiadau dyfarnu contract, rheoli dogfennau a chytuno ar ystod eang o gontractau.
Cyfrifoldebau’r swydd
Fel rhan o'n tîm Caffael byddwch yn gweithio'n agos gyda thimau ym mhob rhan o'n busnes, gan gefnogi eu gweithgareddau caffael. Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i sicrhau bod ein prosesau yn deg, yn agored, ac yn cydymffurfio'n llawn.
Byddwch yn arwain ac yn cynnal digwyddiadau caffael drwy gynghori rhanddeiliaid ynglyn ag opsiynau, datblygu strategaethau, drafftio dogfennau perthnasol a chydlynu tendrau a gwerthusiadau yn gyffredinol. Bydd disgwyl i chi wneud argymhellion sy’n seiliedig ar wybodaeth i helpu TrC i gyflawni gofynion y busnes a chanlyniadau prosiectau.
Byddwch yn gweithio ar gontractau ar gyfer nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y sector cyhoeddus a fydd yn amrywio o ran blaenoriaeth, gwerth a chymhlethdod, felly bydd angen i chi fod yn gyfarwydd ag amryw o fframweithiau'r sector cyhoeddus fel NPS a CCS, yn ogystal â’r Rheoliadau Contractau Caffael (PCR) 2015 gan gynnwys trothwyon a phrosesau OJEU priodol.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Gweithiwr proffesiynol ym maes caffael sy'n gallu canolbwyntio ar fanylion, ac sy'n meddu ar wybodaeth o PCR 2015 yn ogystal â gweithgareddau caffael sydd heb eu rheoleiddio ac sy'n gallu arddangos dealltwriaeth o bwysigrwydd sicrhau gwerth am arian ar sail oes gyfan yn nhermau sicrhau buddion nid yn unig i’r sefydliad, ond hefyd i gymdeithas a’r economi, gan leihau niwed i’r amgylchedd (Egwyddorion Caffael Cynaliadwy).
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Iaith Gymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Procurement Manager
Location: Cardiff (move to Pontypridd by late 2020)
Introduction
An exciting opportunity to join our growing procurement team as a Procurement Manager to get involved in all aspects of the tender process, including issuing contract-award notices, managing documentation and placing a wide range of contracts.
Role responsibilities
As part of our Procurement team you’ll work closely with teams in all parts of our business, supporting their procurement activity and using your knowledge and expertise to ensure our processes are fair, open and fully compliant.
You’ll be leading and delivering procurement events by advising stakeholders of options, developing strategies, drafting relevant documentation and generally coordinating tenders and evaluations. You will be expected to make informed recommendations to assist TfW in achieving business requirements and project outcomes.
You’ll be working on contracts for goods, services and works in the public sector that range in priority, value and complexity, so you’ll need to be familiar with various public sector frameworks such as NPS and CCS, as well as the Procurement Contracts Regulations (PCR) 2015 including appropriate OJEU thresholds and processes.
Who we’re looking for
A detail-focussed procurement professional who has knowledge of PCR 2015 as well as non-regulated procurement activities and can demonstrate an understanding of the importance of achieving value for money on a whole life basis in terms of generating benefits not only to the organisation, but also to society and the economy, whilst minimising damage to the environment (Sustainable Procurement Principles).
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.