Uwch Ddatblygwr Craidd
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Dyma gyfle gwych i ymuno â TrC yn ystod cyfnod cyffrous o drawsnewid fel Uwch Ddatblygwr Craidd i fod yn gyfrifol am bennu ac adeiladu neu weithredu, yn unol â’r briff a’r gofynion, gwaith datblygu ystâd ddigidol Un Parth TrC, a pharhau i weithio at ddatblygu gwefan trafnidiaeth aml-fodd o’r radd flaenaf i sicrhau bod gennym yr offer digidol i ymgysylltu a chyfathrebu’n effeithiol â’n cynulleidfaoedd allweddol.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn datblygu gwefannau a meicrowefannau amlieithog ar draws sawl parth, rhai gydag integreiddiadau a modiwlau API cymhleth; gan gynnwys mudo data/cynnwys o ystâd ddigidol aml-lwyfan; sicrhau sefydlogrwydd a pharhad mewn systemau hanfodol.
Byddwch yn ysgrifennu cod glân, effeithlon a chynaliadwy, gan ddefnyddio arferion a safonau gorau’r diwydiant, defnyddio’r technolegau diweddaraf gan ddefnyddio arferion datblygu Drupal diweddar i greu profiad gwych i’r gynulleidfa a chynnal sefydlogrwydd, diogelwch a pharhad mewn systemau hanfodol.
Byddwch hefyd yn dylunio, yn codio, yn profi, yn cywiro ac yn dogfennu rhaglenni, modiwlau a sgriptiau cymhleth; yn cyflwyno datrysiadau cadarn, o ansawdd uchel, mae modd eu tyfu a'u hoptimeiddio o friffiau a manylebau y cytunwyd arnynt ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau, drwy raglenni gwe sy’n seiliedig ar Drupal 8 a 9 yn bennaf i ddarparu profiadau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am ddatblygwr profiadol sy’n gallu defnyddio profiad yn Drupal, JavaScript, JQuery a Vue i ysgrifennu cod a chywiro rhaglenni cymhleth i ddarparu amrywiaeth o atebion digidol cadarn.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Senior Back-End Developer
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
A fantastic opportunity to join TfW during an exciting period of transformation as a Senior Back-End Developer to be responsible for specifying and building or implementing, according to briefs and requirements, the development work of TfW’s One Domain digital estate, and ongoing evolution towards a world class multi-modal transport web site to ensure that we have the digital tools to engage and communicate effectively with our key audiences.
Role responsibilities
You’ll develop multi-lingual sites and microsites across multiple domains, some with complex API integrations and modules; including content / data migration from a multi-platform digital estate; ensuring stability and continuity in mission critical systems.
You'll write clean, efficient and sustainable code, utilising industry best practices and standards, leveraging the latest technologies using up to date Drupal development practices to create a great audience experience and maintain stability, security and continuity in mission critical systems.
You'll also design, code, test, correct and document complex programs, modules and scripts; delivering robust and high-quality, scalable and optimised solutions from briefs and agreed specifications for a diverse range of projects, although predominantly Drupal 8 and 9 based web applications to deliver customer focused experiences.
Who we’re looking for
We’re looking for an experienced developer who can leverage experience in Drupal, JavaScript, JQuery and Vue to write code and correct complex programmes to deliver a range of robust digital solutions.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.