Rheolwr Rheoli Gwybodaeth Adeiladu (BIM)
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
CyflwyniadDyma gyfle gwych i ymuno â Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel Rheolwr BIM i ddatblygu, gweithredu a rheoli strategaeth a chynllun Rheoli Gwybodaeth Adeiladu TrC er mwyn galluogi gallu TrC yn y maes hwn i dyfu gan sicrhau y glynir wrth Safonau’r Diwydiant.
Cyfrifoldebau’r rôlByddwch yn arwain y gweithgareddau Rheoli Gwybodaeth drwy gydol oes y prosiect drwy weithio ar draws y timau Peirianneg, Seilwaith, Gweithrediadau a TG i sefydlu a chefnogi’r Amgylchedd Data Cyffredin i sicrhau bod data’n cael ei gyfnewid yn effeithiol ac mewn fformatau sy’n cefnogi eu pwrpas pellach.
Byddwch yn gyfrifol am weithredu safonau, dulliau a gweithdrefnau’r prosiect yn unol â (ISO 19650 Rhan 1 a 2). Gweithio gyda thîm TrC i ddatblygu a chynnal cyfres o safonau a gweithdrefnau BIM i sicrhau bod prosiectau TrC yn cael eu cyflawni yn unol â’r fanyleb ofynnol.
Byddwch yn hyrwyddo BIM yn TrC, yn ogystal â hyrwyddo, cyfleu ac arwain ymddygiad BIM drwy ddatblygu gallu TrC i ddatblygu a galluogi technoleg gan sicrhau ei bod yn cael ei gweithredu a’i defnyddio ar draws TrC a’n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi.
Byddwch yn dylunio’r llifoedd gwaith a’r prosesau angenrheidiol drwy weithio ar draws gwahanol dimau gan gynnwys y Tîm Peirianneg ac Uned Dadansoddi TrC i sicrhau bod BIM yn cael ei fabwysiadu, gan gysylltu BIM ag amgylchedd data Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol.
Am bwy rydyn ni’n chwilioRydym yn chwilio am rywun sydd ag Aelodaeth o sefydliad proffesiynol cymeradwy (IET, IMechE, TGCh neu debyg) sydd â phrofiad o systemau a phrosesau Rheoli Gwybodaeth a BIM mewn Prosiectau Canolig a Mawr.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Byddai’r canlynol o fudd hefyd:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
BIM Manager
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction A great opportunity to join Transport for Wales (TfW) as a BIM Manager to develop, implement, and manage TfW’s Building Information Management (BIM) strategy and plan to enable TfW’s capability within this field to grow ensuring adherence to Industry Standards.
Role responsibilitiesYou’ll lead the Information Management activities throughout the project lifecycle by working across the Engineering, Infrastructure, Operations, and IT teams to establish and support the Common Data Environment to ensure that data is exchanged effectively and in formats that support their onward purpose.
You’ll be responsible for the implementation of project standards, methods, and procedures in accordance with (ISO 19650 Part 1 & 2). Working with the TfW team to develop and maintain a suite of BIM standards and procedures to ensure TfW projects are delivered to the required specification.
You’ll champion BIM within TfW and promote, articulate and lead BIM behaviours by developing TfW’s capability in developing and enabling technology ensuring that it is implemented and used across TfW and our supply chain partners.
You’ll design the necessary workflows and processes by working across various teams including the Engineering Team and TfW’s Analytical Unit to ensure adoption of BIM, linking BIM with Geographic Information Systems data environment.
Who we’re looking forWe’re looking for someone who has Membership of an approved professional institution (IET, IMechE, ICT or similar) with experience of BIM and Information Management systems and processes within Medium and Major Projects.
You’ll need to have:
It would be beneficial if you also had:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.