Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned
Lleoliad - De Ddwyrain Cymru
Contract Tymor Penodol - Awst 2021 - Mawrth 2022
Cyflwyniad
Cyfle gwych i ymuno â thîm cymunedau a rhanddeiliaid Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned. Byddwch chi’n gweithio mewn cymunedau lleol ar draws ardal XX yn arwain ein rhaglen wybodaeth ac allgymorth. Byddwch chi’n hysbysu, yn ymgysylltu ac yn creu cysylltiadau â grwpiau lleol, yn canfod ffyrdd o gydweithio i ddatgloi gwerth cymdeithasol a chasglu adborth angenrheidiol i helpu i lunio prosiectau trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae hon yn swydd newydd sbon yn TrC, a bydd cyfle i chi lunio cylch gwaith amrywiol a dynamig, ynghyd â chanfod ffyrdd newydd o ymgysylltu â chymunedau lleol.
Cyfrifoldebau’r swydd
Fel Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned, byddwch chi’n codi ymwybyddiaeth o waith trafnidiaeth drawsnewidiol TrC gyda chymunedau lleol.
Byddwch chi’n gweithio o bell yn eich cymunedau lleol er mwyn ymgysylltu â grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid drwy greu cysylltiadau, datblygu a rheoli cynllun ‘lleol iawn’ ar gyfer ymgysylltiad a chyfleoedd gweithio cydweithredol.
Byddwch chi’n ymgysylltu ag amrywiaeth o bobl er mwyn casglu adborth a gwybodaeth leol a allai helpu i lunio prosiectau gwella, gan fwydo’r canlyniadau i mewn i gynlluniau manwl, fel y rhai ar gyfer gwella gorsafoedd ac integreiddio trafnidiaeth amlfodd.
Bydd gennych chi’r cyfrifoldeb arbennig dros weithredu profiadau dysgu a gweithgareddau lles wedi’u targedu ar gyfer grwpiau buddiant lleol drwy hwyluso tripiau i addysgu a hysbysu am feysydd fel diogelwch trafnidiaeth, teithio llesol a’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn iddyn nhw ystyried defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogel.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn dymunol, brwdfrydig a hunan-gynhaliol sy’n adnabod ei gymuned leol yn dda ac sy’n cael ei gyffroi gan sgwrsio â grwpiau buddiant lleol am drafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Iaith Gymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Community Engagement Officer
Location - South East Wales
Fixed Term Contract - Awst 2021 - Mawrth 2022
Introduction
An amazing opportunity to join Transport for Wales’ (TfW) as part of the community and stakeholder team as a Community Engagement Officer. Working in local communities across the Cardiff region, you will lead our outreach and information programme. You will inform, engage and build links with local groups, finding ways of working together to unlock social value and and gather essential input to help shape public transport projects.
This is a brand new role at TfW, and you will have the opportunity to carve out a varied and dynamic remit, including finding new ways to engage with local communities.
Role responsibilities
As the Community Engagement Officer, you will raise awareness of TFWs transformative transport work with local communities.
You’ll be working remotely in your local communities to proactively identify stakeholder and community groups by building links, developing and managing a ‘hyper-local’ plan for engagement and collaborative working opportunities.
You’ll be out engaging with a variety of people to gather local input and feedback that can help shape improvement projects, feeding the outputs into detailed designs and plans, such as those for station improvements and multi modal transport integration
You’ll also have the fantastic responsibility of implementing targeted wellbeing activities and educational experiences for local interest groups by facilitating trips to educate and inform on areas such as transport safety, active travel and public transport use in order for them to consider safe public transport use.
Who we’re looking for
We’re looking for an engaging, motivated and self-sufficient individual who knows their local community well and is excited by engaging with local interest groups about public transport.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but not essential for this role.