Ecolegydd
Lleoliad
Caerdydd (gan symud i Bontypridd erbyn 2020)
Cyflwyniad
Cyfle cyffrous i ymuno â’n tîm diogelwch a chynaliadwyedd sy’n tyfu fel ein Hecolegydd mewnol i ddarparu cyngor a chyfarwyddiadau ecolegol i Trafnidiaeth Cymru a’n partneriaid mewn perthynas ag asesu, effaith a lliniaru datblygiadau ar fioamrywiaeth a rhywogaeth a warchodir.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch chi’n darparu cyngor ecolegol proffesiynol i bob aelod o staff sy’n cyfrannu at brosiectau trwy weithio gyda thimau prosiectau, ymchwilio a chyfrannu at ddatblygu prosiectau i sicrhau bod TrC yn cydymffurfio â deddfwriaeth fel Deddf yr Amgylchedd.
Byddwch chi’n gwneud eich gwaith o dan ddeddfwriaeth berthnasol drwy ddatblygu cynigion a mentrau eraill sy’n effeithio ein safleoedd, gan gynnwys ein swyddfeydd a’n depos, ein coedwig yn Llan-wern a’r gorsafoedd a’r rheilffyrdd sy’n cael eu rheoli gan ein partneriaid i ddiogelu a chynyddu bioamrywiaeth.
Byddwch chi hefyd yn cyfrannu at bolisïau mewnol ac yn ysgrifennu gweithdrefnau ar gyfer cryfhau a chynyddu bioamrywiaeth drwy gadw golwg ar newidiadau i ddeddfwriaeth a darparu gwelliannau i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau TrC yn hyrwyddo’r arferion gorau.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am Ecolegydd profiadol sy’n gallu darparu adroddiadau amgylcheddol, sy’n deall effaith cynllunio a datblygu ac sy’n gallu darparu cyngor i uwch reolwyr TrC er mwyn creu’r dull a’r diwylliant cywir o ran Ecoleg.
Mae’r canlynol yn angenrheidiol:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Iaith Gymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Ecologist
Location
Cardiff (move to Pontypridd by 2020)
Introduction
An exciting opportunity to join our growing safety and sustainability team as our in-house Ecologist to provide ecological advice and guidance to Transport for Wales and our partners regarding the assessment, impact and mitigation of development on biodiversity and protected species.
Role responsibilities
You’ll be providing professional ecological advice to all staff involved in projects by working with project teams, researching, and informing project development to ensure TfW is compliant with legislation such as the Environment Act.
You’ll be discharging our duties under relevant legislation by developing proposals and other initiatives affecting our sites, including our offices and depots, our woodland in Llanwern and the stations and railways managed by our partners to protect and enhance biodiversity.
You’ll also contribute to internal policies and write procedures for biodiversity resilience and enhancement by keeping abreast of changes in legislation and providing Improvements to ensure TfW's policies and procedures advocate best practice.
Who we’re looking for
We’re looking for an experienced Ecologist who is able to deliver environmental reporting, understands the impact of planning and development and be able to provide advice to TfW senior management to create the right approach and culture towards Ecology.
You’ll need to:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.