Uwch Ddatblygwr Meddalwedd
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â TrC fel Uwch Ddatblygwr Meddalwedd i fod yn gyfrifol am ddatblygu themâu pen blaen ystad ddigidol Un Parth TrC (haenau cyflwyno), yn ôl briffiau, gofynion a dyluniadau dwysedd uchel, ac esblygu’n barhaus i fod yn safle trafnidiaeth aml-ddull o’r radd flaenaf.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn datblygu cod haen ar gyfer safleoedd a microwefanau amlieithog ar draws sawl parth, rhai ag integreiddiadau a modiwlau API cymhleth ar draws ystad ddigidol TrC; Profi a diweddaru i sicrhau bod haenau cyflwyno yn gweithio yn y 3 fersiwn lawn ddiweddaraf o brif borwyr a phorwyr symudol cyfredol i gynnig profiad gwych i ddefnyddwyr.
Byddwch yn ysgrifennu cod glân, effeithlon a chynaliadwy, gan ddefnyddio arferion a safonau gorau’r diwydiant, a defnyddio’r technolegau diweddaraf gan gynnwys templedi Twig, a’u defnyddio i weithredu’r genhedlaeth nesaf o ryngwynebau defnyddwyr, gydag arferion UX cyfredol i sicrhau bod systemau digidol TrC yn parhau i fod yn gystadleuol a chynyddu ymgysylltiad.
Byddwch hefyd yn llysgennad allweddol ar gyfer dull cyfathrebu TrC, gan sicrhau bod y gwaith cyfathrebu yn cyd-fynd â’n gweledigaeth a’n gwerthoedd i sicrhau bod safonau, dull a negeseuon cyfathrebu TrC yn gyson ar draws y sefydliad a’i sianeli cyfathrebu.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Senior Software Developer
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
An exciting opportunity to join TfW as Senior Software Developer to be responsible for the development of TfW’s One Domain digital estate’s front-end themes (presentation layers), according to briefs, requirements and high-fidelity designs, and ongoing evolution towards a world class multi-modal transport site.
Role responsibilities
You’ll develop layer code for multi-lingual sites and microsites across multiple domains, some with complex API integrations and modules across the TfW digital estate; Testing and updating to ensure that presentation layers function in the latest 3 full versions of major browsers and current mobile browsers to deliver a great user experience.
You'll write clean, efficient and sustainable code, utilising industry best practices and standards, leveraging the latest technologies including Twig templating and using them to implement next generation user interfaces with up-to-date UX practices to ensure that the TfW digital systems remain competitive and increase engagement.
You'll also be a key ambassador for TfW’s communications approach, making sure communications activity is aligned to our vision and values to ensure TfW has a consistent standard, approach and messaging in its communications across the organisation and its communication channels.
Who we’re looking for
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.