Partner Busnes Technoleg Gwybodaeth
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gyflogwr Cyfle Cyfartal. Mae hyn yn golygu y dylai pawb sy’n gymwys gael cyfle cyfartal i gael swydd a dyrchafiad ar sail ei allu, ei gymwysterau a’i addasrwydd ar gyfer y gwaith. Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw ymgeisydd na gweithiwr gael ei drin yn llai ffafriol ar sail: hil; lliw; rhyw; cyfeiriadedd rhywiol; oedran; statws priodasol, anabledd; crefydd; cyfrifoldebau teuluol/domestig a phatrymau gwaith, ee rhan-amser. Ni ddylid ychwaith roi unrhyw unigolyn dan anfantais oherwydd amodau neu ofynion, heb gyfiawnhad dros hynny.
Rhagarweiniad
Cyfle gwych i ymuno â TrC fel Partner Busnes Technoleg Gwybodaeth i weithio fel rhan o'r tîm Technoleg Gwybodaeth yn TrC. Bydd y partner busnes TG (Cyllid) yn rheoli'r berthynas rhwng TG a Chyllid er mwyn gallu darparu’n effeithiol yr amrywiaeth o wasanaethau TG y mae’r tîm cyllid yn gofyn amdanynt er mwyn galluogi'r cwmni i gyflawni ei fusnes craidd.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch chi'n bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl ymholiadau am Dynamics 365 ar gyfer Cyllid a Gweithrediadau, drwy ddidoli'r ymholiadau a chysylltu â'r tîm cywir yn uniongyrchol er mwyn sicrhau bod system gyllid TrC ar gael i'r staff.
Byddwch chi'n creu ac yn monitro Dynamics ar gyfer Cyllid a Gweithrediadau, yn uwchraddio amserlenni ac yn profi cynlluniau yn unol â chynllun Microsoft er mwyn sicrhau bod y nifer fwyaf bosibl o systemau cyllid ar-lein ar gael gan TrC.
Byddwch chi'n cefnogi ac yn monitro digwyddiadau sydd heb gael eu datrys gyda chwmnïau cymorth 3ydd parti a Microsoft fel y bo'r angen, drwy ddefnyddio porth ymholiadau TrC er mwyn sicrhau bod pob digwyddiad yn cael ei ddatrys yn brydlon.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni'n chwilio am rywun o gefndir TG neu Gyllid i weithio ar draws adrannau i gefnogi a datrys problemau gyda’r system ERP er mwyn i TrC allu parhau i gyflawni ei weithgareddau craidd.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
IT Business Partner
Equal Opportunities
Transport for Wales (TfW) is an Equal Opportunities Employer, this means that all eligible people should have equality of opportunity for employment and advancement on the basis of their ability, qualifications and suitability for work. This means that no job candidate or employee should receive less favourable treatment on the grounds of: race; colour; sex; sexual orientation; age; marital status; disability; religion; or family/domestic responsibilities and working patterns e.g. part-time. Nor should any individual be disadvantaged by conditions or requirements, which cannot be shown to be justifiable.
Introduction
A fantastic opportunity to join TfW as an IT Business Partner to work as part of the TfW IT team, the IT business partner (Finance) will manage the relationship between IT and Finance to enable the effective delivery of a range of IT services requested by the finance team to enable the company to carry out its core business.
Role responsibilities
You’ll act as the first point of contact for all Dynamics 365 Finance and Operations queries by triaging the tickets and liaising with correct team directly to ensure TfW’s finance system is readily available to its employees.
You'll create and monitor Dynamics Finance and operations Upgrade schedules and test plans in line with Microsoft plan to make sure TfW has maximum availability of online finance systems.
You'll log and monitor unresolved incidents with 3rd party support companies and Microsoft as required by using TfW's ticket portal, to make sure all incidents are resolved within a timely fashion.
Who we’re looking for
We're looking for someone from either an IT or Finance background to work across departments to support and resolve ERP system issues to allow TfW to conduct is core activities.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.