Derbynnydd
Lleoliad: Pontypridd
Ceisiadau erbyn: 18/09/2020
Dyddiad Dechrau’r Swydd: 19/10/2020
Math o Gontract: Rhan amser
Oriau gweithio: 7:30 – 12:30 neu 12:00 – 17:00
Cyflwyniad
Bydd Trafnidiaeth Cymru’n symud i’w bencadlys newydd ym Mhontypridd ac rydyn ni’n chwilio am 2 o Dderbynyddion i ymuno â ni ar ein taith. Bydd y Derbynyddion yn gyfrifol am fod ym Mlaen Ty swyddfa newydd TrC i weithredu fel pwynt cyswllt hanfodol ar gyfer ein holl gydweithwyr a’n hymwelwyr.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch ym mlaen ty TrC ar gyfer holl ymwelwyr a chydweithwyr pencadlys TrC ac yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf, cyfarch pobl a logio cwsmeriaid i sicrhau bod TrC yn gallu rhoi profiad da i chi yn ystod eich ymweliad.
Byddwch yn rheoli archebion y llefydd parcio a’r ystafelloedd cyfarfod drwy ddefnyddio system archebu Gobright TrC i sicrhau bod y llefydd parcio a'r ystafelloedd cyfarfod yn cael eu dyrannu’n effeithlon ac yn drefnus.
Byddwch hefyd yn ymateb i ymholiadau cwsmeriaid dros e-bost, galwadau ffôn ac wyneb yn wyneb er mwyn helpu gyda chwestiynau cyffredinol o ddydd i ddydd.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am siaradwyr Cymraeg sy’n gallu sicrhau bod ein holl staff a’n hymwelwyr yn cael eu croesawu, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid da a bod y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y sefydliad.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae gallu siarad Cymraeg yn hanfodol, fodd bynnag, byddai darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg o fantais ond nid yw’n orfodol.
Receptionist
Location: Pontypridd
Apply by: 18/09/2020
Role Start Date: 19/10/2020
Contract Type: Part-Time
Working hours: 07:30 – 12:30 or 12:00 – 17:00
Introduction
Transport for Wales (TfW) will be moving to its new Headquarters in Pontypridd and we’re looking for 2 Receptionists to join us on our journey. The Receptionists will be responsible for being the Front of House TfW’s new office to act as an essential point of contact for all our colleagues and visitors.
Role responsibilities
You’ll be be TfW’s front of house for all visitors and colleagues to TfW’s head office by acting as an initial point of contact, greeting people and logging visitors to ensure TfW can securely give a good experience when visiting.
You’ll also be managing the booking of car park spaces and meetings room by using TfW’s Gobright booking system to ensure the efficient and organised allocating of parking and meeting rooms.
You’ll also be responding to customer queries through emails, telephone calls and face to face to assist with general day-to-day questions.
Who we’re looking for
We’re looking engaging welsh speakers who are able to make all our staff and visitors feel welcome, providing a good customers service and being the initial point of contact for the organisation.
You’ll need to have
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh language skills
The ability to speak Welsh is essential, however, reading and writing in welsh would be advantageous but not mandatory.