Arweinydd y Tîm Cyfleusterau
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Mae cyfle gwych wedi codi i fod yn Arweinydd y Tîm Cyfleusterau yn delio â’r trefniadau busnes a gweinyddol sy’n angenrheidiol i’r cwmni gyflawni ei fusnes craidd ym mhob un o'r swyddfeydd.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn cynnal gwasanaeth rhagweithiol ac adweithiol ar draws pob swyddfa trwy arwain a goruchwylio tîm i gefnogi anghenion adeiladau TrC a gweithrediadau rheoli cyfleusterau o ddydd i ddydd.
Arwain y gwaith o gynnal portffolio swyddfeydd TrC drwy ddarparu gwasanaeth rheoli cyfleusterau caled a meddal cynhwysfawr i staff Trafnidiaeth Cymru ac i denantiaid ac ymwelwyr eraill, gan ddefnyddio swyddfeydd y cwmni i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf i fodloni eu hanghenion.
Byddwch hefyd yn gweithio gyda’r tîm Diogelwch a Chynaliadwyedd i sicrhau bod archwiliadau a gwiriadau diogelwch yn cael eu cynnal ar draws swyddfeydd Trafnidiaeth Cymru (ee sylweddau peryglus, diogelwch tân, gwiriadau legionella).
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am weithiwr proffesiynol ym maes cyfleusterau sydd â phrofiad blaenorol o reoli neu oruchwylio tîm, a fydd yn gallu helpu’r Rheolwr Cyfleusterau i ddarparu cyfleusterau mewnol o’r radd flaenaf.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Facilities Team Leader
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction
A fantastic opportunity to has arisen in the Facilities Team to be the Facilities Team Leader to deliver the business and administrative arrangements necessary for the company to carry out its core business across all its offices.
Role responsibilities
You’ll maintain a proactive and reactive service across all offices by leading and supervising a team to support TfW's accommodation needs and day to day facilities management operations.
You’ll lead with the maintenance of TfW’s office portfolio by providing a fully comprehensive hard and soft facilities management service to Transport for Wales staff and other occupiers and visitors using the company’s offices to provide a first-class service to meet their needs.
You'll also work with the Safety and Sustainability team to ensure that safety checks and audits are completed across all Transport for Wales offices (e.g. hazardous substances, fire safety, legionella checks).
Who we’re looking for
We’re looking for a facilities professional who has previous experience of managing or supervising a team, who can support the Facilities Manager in providing a best in class internal facilities provision.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.