Rheolwr Rhanddeiliaid (Canol Cymru)
Math o gontract: Cytundeb tymor penodol - 30/08/2021 - 04/03/2022
Cyflwyniad
Cyfle gwych i ymuno â Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel y prif gyswllt ar gyfer amryw o grwpiau. Bydd y Rheolwr Rhanddeiliaid a’r Gymuned yn datblygu cysylltiadau cryf â rhanddeiliaid, a bydd hefyd yn hanfodol o ran casglu adborth a fydd yn helpu i lywio gwaith TrC, yn ogystal â datblygu ymwybyddiaeth y cyhoedd o brosiectau gwella trafnidiaeth, y buddiannau a’r effaith leol.
Cyfrifoldebau’r swydd
Chi fydd yn arwain y gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol o ddydd i ddydd ar ran Trafnidiaeth Cymru. Byddwch yn arweinydd ar gyfer fforymau trafnidiaeth er mwyn codi proffil gwasanaethau rheilffyrdd a thrafnidiaeth ar gyfer Cymru a’r Gororau, gan sicrhau eu bod yn cael effaith gadarnhaol.
Byddwch chi’n arwain ac yn rheoli cysylltiadau â rhanddeiliaid lleol drwy ymgysylltu’n rheolaidd â gwahanol grwpiau a bod yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau gan randdeiliaid, gan wneud yn siwr bod cynlluniau trafnidiaeth yn sicrhau mwy o fuddion i’r gymuned yn y pen draw.
Byddwch chi hefyd yn datblygu ac yn arwain strategaeth ymgysylltu i sicrhau bod ein cymunedau'n cael eu hysbysu a’u cynnwys, drwy nodi mesurau, effeithiau a rhanddeiliaid allweddol, a datblygu cynllun rhanbarthol yn ôl yr angen er mwyn hybu buddion cadarnhaol trafnidiaeth gyhoeddus a'r ffordd mae ein cynlluniau’n cael eu siapio.
Am bwy rydym yn chwilio
Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu dangos profiad amlwg o ymgysylltu â rhanddeiliaid ac sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu cadarn i ddatblygu strategaeth ymgysylltu o’r radd flaenaf. Rhywun all ddatblygu cysylltiadau parhaol a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’n prosiectau gwella trafnidiaeth trawsnewidiol.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydym ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Stakeholder Manager (Mid Wales)
Contract Type: Fixed-term contract - 30/08/2021 - 04/03/2022
Introduction
A superb opportunity to join Transport for Wales (TfW) as the ‘go-to’ for a plethora of groups, the Stakeholder Manager will build strong relationships with stakeholders and be integral to capturing feedback that will help inform TfW’s work, as well as developing public awareness of transport enhancement projects, the benefits and local impacts.
Role responsibilities
You’ll be leading the day to day external stakeholder engagement on behalf of Transport for Wales, acting as the lead in transport-specific forums, to raise the profile and positive impact of rail and transport for Wales and Borders.
You’ll be leading and managing local stakeholder relationships by regularly engaging with various groups and acting as a point of contact for stakeholder queries and to ultimately deliver greater community benefits from transport related initiatives.
You’ll also be developing and leading an engagement strategy to ensure our communities are informed and involved, by identifying key stakeholders, impacts and measures, and develop a regional plan as required to promote the positive benefits of public transport and how to shape our plans.
Who we’re looking for
We’re looking for who can leverage demonstrable experience on stakeholder engagement and strong communication skills to develop a best in class engagement strategy. Someone who can develop lasting relationships and increase public awareness of our transformative transport enhancement projects.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.