Syrfëwr Ystadau
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
CyflwyniadCyfle gwych i ymuno â Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel Swyddog Ystadau a helpu i reoli teitl rhydd-ddaliad TrC o Linellau Craidd y Cymoedd, ond hefyd i gefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau seilwaith rheilffyrdd eraill y tu allan i Linellau Craidd y Cymoedd, gan gynnwys datblygiadau gorsafoedd yn Shotton, Glannau Dyfrdwy a Sanclêr.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn cefnogi Trafnidiaeth Cymru (TrC) i reoli’r portffolio tir ac eiddo, drwy gysylltu â’r Rheolwr Tir a’r adnodd ymgynghorwyr i sicrhau bod teitl rhydd-ddaliad TrC yn cael ei reoli’n effeithiol.
Byddwch yn cefnogi cyfarwyddiaethau eraill TrC yng nghyswllt datblygu prosiectau seilwaith rheilffyrdd, drwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd â’r Timau Cyflawni Prosiectau, er mwyn gallu cyflawni’r prosiectau ar amser ac yn unol â’r amserlen.
Byddwch yn goruchwylio’r gwaith o reoli’r portffolio rheoli a thir gan Amey Infrastructure Wales (AIW) o ddydd i ddydd drwy gynnal archwiliadau tir ac eiddo i sicrhau y cydymffurfir â thelerau’r brydles.
Byddwch yn cyfeirnodi tir ac eiddo drwy ddefnyddio data’r gofrestrfa dir i sicrhau ymarferoldeb opsiynau’r prosiect.
Am bwy rydyn ni’n chwilioRydym yn chwilio am rywun sydd â gradd mewn Rheoli Ystadau (neu debyg) neu brofiad o reoli portffolio. Profiad o weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, rheoli cysylltiadau’n effeithiol, cadw cofnodion a chydymffurfio â strwythurau adrodd. Bydd angen Trwydded Yrru lawn arnoch hefyd.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Byddai’r canlynol o fudd hefyd:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Estates Surveyor
Equal Opportunities
At Transport for Wales (TfW) we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Introduction A great opportunity to join Transport for Wales (TfW) as an Estates Officer and assist in the management of TfW’s freehold title to the Core Valley Lines (CVL) but also support on the delivery of other rail infrastructure projects outside of the CVL including station developments at Shotton, Deeside and St Clears.
Role responsibilities
You’ll support Transport for Wales (TfW) in the management of the land and property portfolio, by liaising with the Land Manager and consultant resource to ensure effective management of TfW’s freehold title.
You’ll support other TfW directorates in connection with the development of rail infrastructure projects, via regular face to face meetings with the Project Delivery Teams to enable the projects to be delivered on target and on time.
You’ll oversee Amey Infrastructure Wales (AIW) day to day management of the land and management portfolio by undertaking land and property inspections to ensure compliance with lease terms.
You’ll conduct land and property referencing by utilising land registry data to ensure feasibility of project options.
Who we’re looking forWe’re looking for someone who has a degree in Estates Management (or similar) or experience within portfolio management. Experience working with key stakeholders, effective relationship management, record keeping and compliance of reporting structures. You will also need a full UK Driver’s License.
You’ll need to have:
It would be beneficial if you also had:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but is not essential for this role.