Rheolwr Prosiect (Dadansoddi Trafnidiaeth)
Cyflwyniad
Cyfle gwych i ymuno â Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel Rheolwr Prosiect i arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu Arolwg Teithio Cenedlaethol digidol newydd i Gymru, rhan allweddol o gylch gwaith TrC, yn ogystal â rheoli meysydd eraill yn ymwneud á data trafnidiaeth a dadansoddiadau ystadegol i asesu polisi trafnidiaeth a pherfformiad systemau yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn rheoli’r Arolwg Teithio Cenedlaethol drwy ddefnyddio methodolegau cadarn cylch oes prosiect drwy gydol y camau Alpha, Beta, datblygiad terfynol a ‘mynd yn fyw’ er mwyn rhoi’r prosiect ar waith yn ddiogel, o fewn y gofynion amser, cost ac ansawdd.
Byddwch yn datblygu ac yn cynnal trefn lywodraethu effeithiol drwy arwain Gweithgor Arolwg Teithio Cenedlaethol ar y cyd TrC/Llywodraeth Cymru i ymgymryd â gweithgareddau fel cwblhau’r achos busnes, diffinio cwestiynau’r arolwg, nodi’r opsiwn sy’n cael ei ffafrio ar gyfer cynnal yr arolwg, penderfynu ar y dull caffael a gwerthuso tendrau.
Byddwch hefyd yn rheoli risgiau prosiect gan gynnwys diogelu data, enw da, a risgiau ariannol drwy weithio gyda’r Rheolwr Dadansoddi Trafnidiaeth Strategol a’r Gweithgor i sicrhau bod rhywun yn gyfrifol am bob risg a bod camau priodol ar waith i osgoi, lleihau, trosglwyddo neu liniaru risgiau.
Am bwy rydyn ni’n chwilio:
Rydyn ni’n chwilio am Reolwr Prosiect profiadol sydd wedi arwain prosiectau cymhleth drwy eu cylch oes cyfan yn y gorffennol ac sy’n chwilio am her gyffrous, uchel ei phroffil.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Project Manager (Transport Analysis)
Introduction
A fantastic opportunity to join Transport for Wales (TfW) as a Project Manager to lead the development and implementation of a new digital National Travel Survey for Wales, a key part of the TfW remit, as well as managing other areas of transport data and statistical analysis to assess transport policy and system performance against KPIs.
Role responsibilities
You’ll manage the National Travel Survey by applying robust project lifecycle methodologies throughout the Alpha, Beta, final development and ‘go live’ phases to implement the project safely, to time, cost and quality.
You'll be developing and maintaining effective governance by leading the joint TfW/Welsh Government National Travel Survey Working Group to undertake activities such as finalising the business case, defining the survey question set, identifying the preferred survey delivery option, deciding on the procurement approach and evaluating tenders.
You'll also manage project risks including data security, reputational, financial by working with the Strategic Transport Analysis Manager and Working Group to ensure that each risk is owned and that appropriate actions to avoid, reduce, transfer or mitigate risks are in place.
Who we’re looking for:
We’re looking for an experienced Project Manager who has previously delivered complex projects through the entire project lifecycle and looking for an exciting and high profile challenge.
You’ll need to have:
Who we are
Transport for Wales (TfW) is the not-for-profit company driving forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable and accessible transport network in Wales. Our mission is to ‘Keep Wales Moving’ by providing customer-focused service, expert advice and infrastructure investment.
Welsh Language Skills
The ability to speak Welsh would be a plus but not essential for this role.